Gobaith o stadiwm newydd i'r Gweilch erbyn tymor 2025/26
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr y Gweilch yn gobeithio y bydd y rhanbarth yn chwarae mewn stadiwm newydd erbyn dechrau tymor 2025-26.
Cyhoeddodd Lance Bradley ym mis Ionawr fod y Gweilch yn bwriadu symud o Stadiwm Swansea.com.
Dywedodd fod y stadiwm, sydd wedi bod yn gartref i'r Gweilch ers iddo agor yn 2005, yn rhy fawr i'r rhanbarth.
"Hoffwn fod allan erbyn diwedd y tymor nesaf, sy'n golygu gwneud cyhoeddiad gobeithio o fewn y chwe mis nesaf," meddai Bradley.
Ar hyn o bryd mae'r Gweilch yn denantiaid i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, gyda'u tenantiaeth yn dirwyn i ben ar ddiwedd tymor 2024-25.
Dim bwriad adeiladu stadiwm
"Mae gennym ni berthynas dda gyda Dinas Abertawe ac rydw i wedi bod yn rhoi gwybod iddyn nhw beth rydyn ni'n ei wneud," meddai Bradley.
"Dydyn ni ddim yn mynd i ddweud yn sydyn ein bod ni'n gadael yr wythnos nesaf."
Dyw'r Gweilch ddim yn bwriadu adeiladu stadiwm newydd yn ôl Bradley, a fydd yn cynnal cyfarfod gyda chefnogwyr cyn gêm gartref yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Ulster ddydd Sul.
"Does gennym ni ddim £10m o'r neilltu i adeiladu stadiwm newydd," meddai Bradley.
"Bydd y gost o adeiladu un yn atal unrhyw safleoedd ffres, felly mae'n fwy tebygol o fod yn stadiwm presennol y byddwn yn ei ddatblygu rywsut."
Lle i rhwng 6,000 ac 8,000 'yn ddelfrydol'
Chwaraeodd y Gweilch yn erbyn Caerdydd ar ddydd Calan o flaen torf o 8,000 yn stadiwm llawn Maes y Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr, tra bod St Helens yn Abertawe a'r Gnoll yng Nghastell-nedd wedi cael eu defnyddio gan y rhanbarth yn y gorffennol.
"Roedd Maes y Bragdy yn wych yn erbyn Caerdydd felly mae stadiwm o'r maint yna - rhwng 6,000 ac 8,000 - yn debygol o fod yn ddelfrydol.
Ychwanegodd Bradley: "Y peth arall fydd yn bwysig yw'r gallu i godi refeniw heblaw am ddiwrnod gêm.
"Gallwch chi ddim gwneud digon o arian gyda 6,000 o bobl yn dod drwy'r giatiau felly mae'n rhaid i chi naill ai dorri'n ôl ar y gyllideb chwarae - rhywbeth nad ydym yn mynd i'w wneud - neu gynhyrchu incwm rhywle arall."
Ansicrwydd a sibrydion
Mae ansicrwydd wedi bod ynglŷn â dyfodol y Gweilch ers sawl tymor, gyda sibrydion am uno posib gyda thimau eraill.
Mae Bradley, a ddechreuodd ei rôl ym mis Ionawr, yn mynnu bod yna ddyfodol pendant yn wynebu'r rhanbarth.
"Rwy'n gwybod bod dyfalu wedi bod, ond nid ydym yn bwriadu uno â neb na symud i ffwrdd o'r ardal.
"Mae hynny'n ymrwymiad mawr ond mae angen i mi weld cynnydd yn y torfeydd i helpu'r neges honno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2024