Dynes, 84, wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ddynes oedrannus farw ar ôl cael ei tharo gan gar ym mhentref Pengam yn Sir Caerffili ddydd Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Commercial Street am tua 13:00 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerbyd a cherddwr.
Fe gafodd y ddynes 84 oed ei chludo i'r ysbyty, ond bu farw o'i hanafiadau, ac mae ei theulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae dyn 54 oed o ardal Caerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus, ond mae bellach wedi ei ryddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae Heddlu Gwent yn galw ar dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.