Protest yn erbyn toriadau treftadaeth y tu allan i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Cadw a'r Comisiwn Henebion yn wynebu toriadau o 10.5%

Mae rhyw 100 o staff tri o sefydliadau treftadaeth Cymru wedi bod yn protestio y tu fas i'r Senedd ddydd Mawrth.

Mae aelodau undebau Prospect a'r PCS yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried toriadau i'r Llyfrgell Genedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud "bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd dros ben" wrth benderfynu ar eu cyllideb.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac Amgueddfa Cymru yn wynebu toriadau o 10.5%, tra bo'r Comisiwn Brenhinol Henebion yn wynebu colli 22% o'i gyllid.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod arian ychwanegol wedi'i ddarganfod iddyn nhw a Cadw, sy'n golygu mai 10.5% fydd eu toriadau nhw hefyd bellach.

Mae'r protestwyr a oedd y tu fas i'r Senedd ddydd Mawrth yn dadlau bydd y toriadau yn cael effaith andwyol ar dreftadaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Phillips o undeb Prospect, yn archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

"Ni'n sôn am golli degau o swyddi yn y llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol," meddai Rob Phillips o undeb Prospect, sy'n archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

"Mae'n mynd i safio llai na 0.02% o gyllideb Llywodraeth Cymru.

"Mae'r toriadau 'ma ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i'r gyllideb, ond yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr i dreftadaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Green: 'Byddai'r toriadau yn golygu colli rhan o Gymru, colli cof Cymru'

Yn ôl cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green, byddai'r toriadau yn golygu "colli rhan o Gymru, colli cof Cymru".

"Pan o'n i'n yn y llyfrgell o'n i'n wynebu toriadau trwy'r amser, ond ddim toriadau fel hyn - mae rhain yn eithriadol," meddai.

'Penderfyniadau anodd dros ben'

Meg Ryder ydy cadeirydd Prospect yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

"'Da ni wedi wynebu degawdau o cuts yn barod felly does 'na ddim llawer mwy 'da ni'n gallu stopio gwneud, heb gael effaith hynod ar y gwaith ryn ni'n 'neud ar dreftadaeth Cymru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Meg Ryder: Y toriadau i gael 'effaith hynod ar y gwaith ryn ni'n 'neud ar dreftadaeth Cymru'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pob corff wedi gweithio'n gyflym i asesu effaith eu dyraniad cyllidebol.

"Rydym yn ddiolchgar iddynt am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud a'r manteision y mae'r gwaith yn eu cynnig i bobl Cymru.

"Rydyn ni wedi bod yn glir wrth fynd i mewn i'n paratoadau cyllideb ddrafft - oherwydd bod ein cyllideb bellach werth £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd dros ben.

"Mae'r gyllideb derfynol a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys £1.4m ychwanegol ar gyfer Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru."