Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol: 'Peidio â gweithredu'n llawn'

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa Genedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ganolfan ddinesig

Bydd toriadau i gyllidebau Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn golygu y "bydd y ddau sefydliad yn peidio â gweithredu'n llawn", mae undeb wedi rhybuddio.

Ar ddiwedd Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gwtogiad o 10.5% yng nghyllid y ddau sefydliad ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

Mae'n ostyngiad o £3m yn y grant i'r amgueddfa ond dywedodd llefarydd eu bod yn wynebu diffyg o £1.5m ar hyn o bryd "sy'n golygu bod yn rhaid i Amgueddfa Cymru fynd i'r afael â chyfanswm diffyg gwirioneddol o £4.5m".

Cadarnhaodd y llyfrgell mai £1.3m fydd y toriad i'w cyllideb nhw.

'Llwm a phoenus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyma'r sefyllfa ariannol fwyaf llwm a mwyaf poenus a wynebwyd ers dechrau datganoli.

"Rydym wedi bod yn glir wrth baratoi ar gyfer ein cyllideb ddrafft, oherwydd bod ein cyllideb bellach werth £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd dros ben.

"Bydd ein cyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi fis nesaf."

Mewn llythyr at gadeirydd pwyllgor diwylliant Senedd Cymru Delyth Jewell, dywedodd cynrychiolwyr undeb y PCS fod "y ddau sefydliad wedi dioddef o danfuddsoddi cronig dros nifer o flynyddoedd".

Maen nhw'n rhybuddio y bydd y toriadau "yn gwneud Cymru yn lle tlotach ym mhob ffordd bosibl a bydd yn gweld y ddau sefydliad yn peidio â gweithredu'n llawn".

'Y toriad cyllid mwyaf'

Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa wrth BBC Cymru mai "dyma'r toriad cyllid mwyaf yn hanes yr amgueddfa a bydd yn cael effaith sylweddol ar weithrediadau dydd i ddydd Amgueddfa Cymru".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Sain Ffagan yw un o'r adeiladau Gradd I o dan ofal Amgueddfa Cymru

Dywedodd bod 90% o'r incwm sy'n cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wario ar gostau staff.

"Tra ein bod yn archwilio cyfleoedd creu incwm newydd yn ogystal â chostau gweithredol eraill, bydd angen cyflawni'r rhan fwyaf o'r gostyngiad drwy leihau swyddi.

"O ganlyniad, gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnal diswyddo gwirfoddol a diswyddiadau gorfodol ar draws y sefydliad cyfan."

'Pryder'

Dywedodd Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: "Mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn gosod her sylweddol i'r llyfrgell a bydd yn cael effaith ar ein gallu i gasglu, gwarchod, digido a datblygu dulliau newydd o ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.

"Mae hefyd yn bryder y caiff effaith ar ein cenadwri i rannu a darparu mynediad i'r casgliadau ar gyfer cymunedau Cymru a'r byd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y llyfrgell yr hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon

Mae'r gyllideb ar gyfer staff yn ffurfio tua 75% o gyllideb gyfan y llyfrgell, ac felly "nid oes gennym ddewis ond lleihau'n gweithlu, ac oherwydd hynny rydym wedi lansio cynllun ymadael gwirfoddol i'w weithredu erbyn 31 Mawrth 2024", meddai.

Ychwanegodd: "Mae gan y llyfrgell weithlu ymroddgar, gyda lefel sgiliau uchel.

"Heb os, byddai colli unrhyw un o'r staff gwerthfawr hyn yn cael effaith ar ein gallu i gynnal y llyfrgell a'i gwasanaethau i'w lefel bresennol."

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith amgueddfa, gyda chasgliadau o bedwar ban byd.

Mae 5.3 miliwn o eitemau yn y casgliad cenedlaethol, gan gynnwys paentiadau a chelfyddyd gain yn ogystal â'r archifau, llawer ohonynt wedi'u cadw mewn adeiladau rhestredig Gradd I fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chastell Sain Ffagan, Caerdydd.

Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys saith miliwn o lyfrau a phapurau newydd, 1.5 miliwn o fapiau a 950,000 ffotograffau.

Mae'n llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon.