Cyllideb Llywodraeth Cymru: 'Storm berffaith o bwysau ariannol'

  • Cyhoeddwyd
menyw'n rhoi arian mewn pwrsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu "storm berffaith o bwysau ariannol", meddai Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatgelu sut y bydd yn gwario ei harian yn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y byddai ei chynllun yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac yn helpu'r rhai sy'n agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw.

Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn San Steffan, ond mae costau cynyddol yn golygu na fydd arian yn mynd mor bell ag yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei obeithio.

Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am ddatrysiad i amseroedd aros uwch nag erioed yn y Gwasanaeth Iechyd, tra bod Plaid Cymru am i'r llywodraeth godi treth incwm er mwyn cynyddu cyflogau'r sector cyhoeddus.

Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oedd cynyddu trethi er mwyn codi cyflogau yn ateb "difrifol" o ystyried yr argyfwng costau byw.

I ble mae'r arian yn mynd?

Dywedodd Ms Evans y byddai arian ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd, ac i gynghorau ariannu ysgolion a chwrdd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella tâl gofalwyr cymdeithasol.

Nododd y llywodraeth y byddai hynny'n cynnwys £165m yn ychwanegol i GIG Cymru, £227m i lywodraeth leol, a £28m ychwanegol ar gyfer y gyllideb addysg.

Byddan nhw hefyd yn parhau i roi arian tuag at "ymateb dyngarol parhaus Cymru i'r rhyfel yn Wcráin", gyda £40m yn 2023-24 a £20m yn 2024-25.

Gyda dirwasgiad ar y gorwel, mae siopau, lleoliadau lletygarwch a hamdden wedi cael addewid o doriad yn eu hardrethi busnes.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 yn £20bn, gyda tua hanner hynny'n mynd ar dalu'r 245,000 o weithwyr sector gyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys athrawon, doctoriaid a nyrsys.

Ond mynnodd y llywodraeth y byddai'r gyllideb yn ei chyfanrwydd werth hyd at £1bn yn llai y flwyddyn nesaf na phan gafodd yr arian o Lywodraeth y DU ei gyhoeddi'n wreiddiol, a hynny am fod chwyddiant wedi golygu cynnydd sylweddol mewn prisiau.

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn cyhoeddi cynlluniau gwariant y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf

Dywedodd Ms Evans: "Mae hon yn gyllideb mewn cyfnod anodd a fydd yn rhoi gymaint o gymorth ag y gallwn i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol.

"Bydd hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw ac yn cefnogi ein heconomi drwy'r dirwasgiad."

Ychwanegodd mai dyma oedd "un o'r cyllidebau anoddaf ers datganoli".

"Mae'n cael ei chyflwyno mewn cyfnod o ddirwasgiad pellach i economi'r DU, a hyn yn dilyn degawd o fesurau cyni, Brexit a'r pandemig," meddai.

"Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd ac mae costau ynni wedi cynyddu'n ddychrynllyd."

'Dim codi trethi'

Daw'r gyllideb ddiweddaraf wrth i weithwyr mewn sawl sector yng Nghymru, gan gynnwys nyrsys, baratoi i fynd ar streic dros ddiffyg codiad cyflog digonol.

Er bod Llafur yn beio diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU am fethu â chynnig hynny, mae'r Ceidwadwyr yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau ei hun i godi trethi petai hi'n dymuno.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn annog gweinidiogion i wneud hynny, a dywedodd Mr Drakeford ym mis Hydref y byddai'n ystyried y peth.

Ond wrth gael ei holi yn y Senedd funudau cyn i'r gyllideb gael ei gyhoeddi, dywedodd y prif weinidog y byddai'n beth "syfrdanol" i wneud gan fod pobl yng Nghymru eisoes yn talu mwy o dreth nag unrhyw adeg arall yn y 70 mlynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefelau chwyddiant uchel yn golygu bod yr un symiau o arian bellach ddim yn mynd mor bell ag yr oedden nhw'n arfer gwneud

"Ydy e'n credu am eiliad bod hwn yn gynnig difrifol i roi gerbron llywodraeth fan hyn yng Nghymru?" gofynnodd Mr Drakeford mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

"Ar adeg pan dyw pobl methu prynu bwyd, methu fforddio talu am ynni, y dylen ni gymryd hyd yn oed mwy o arian allan o'u pocedi nag y mae'r llywodraeth eisoes yn ei wneud?

"Dyw hwnna ddim yn ddewis y byddai llywodraeth sydd o ddifrif yn ei wneud yma yng Nghymru."

Ychwanegodd y byddai unrhyw gynnydd mewn trethi dal ddim yn dod "unrhyw le'n agos" at godi digon o arian i dalu am godiad cyflog fyddai'r un mor uchel â lefelau chwyddiant.

Ymateb y pleidiau

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod y gyllideb ddrafft yn "brawf pellach" nad oedd y setliad datganoli presennol yn gweithio i "bobl Cymru".

"Heb bwerau cryfach dros ein heconomi a heb y gallu i osod bandiau treth penodol i Gymru sy'n adlewyrchu'n well yr hyn sydd ei angen ar ein cenedl, bydd Cymru bob amser yn cael ei llusgo gan fympwyon San Steffan," meddai.

Mynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mai "dewis gwleidyddol" oedd hi gan Lafur i beidio cynnig codiad cyflog digonol i nyrsys ac y gallant fod wedi defnyddio'r gyllideb i godi trethi petaen nhw wir yn dymuno.

"Fe wnaeth nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn Yr Alban oedi eu streiciau nhw pan gawson nhw gynnig cyflog gwahanol, felly mae'n anonest i'r Prif Weinidog ddweud nad yw'n gallu gwneud unrhyw beth a beio eraill am rywbeth sy'n sicr o fewn cyfrifoldebau datganoledig," meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, ei bod hi'n cydnabod "anawsterau" y gyllideb hon yn dilyn "methiant y Ceidwadwyr i gael gafael ar yr argyfwng ynni, a chyllideb fechan drychinebus Liz Truss".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am fynd i'r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, sydd ar eu huchaf erioed

Ond ychwanegodd ei bod am weld mwy o ffocws mewn "meysydd allweddol" eraill, fel taclo'r argyfwng staffio o fewn iechyd a gofal, a deintyddiaeth, yn ogystal â "rhaglen insiwleiddio brys".

"Byddai hynny nid yn unig yn helpu'r amgylchedd, ond yn arbed arian yn y tymor hir i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a theuluoedd," meddai.

Yn ôl Dr Edward Thomas Jones, darlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes, Prifysgol Bangor, dyw'r cynnydd yn y gwariant ddim yn ddigon i gydbwyso'r cynnydd mewn costau o ganlyniad i chwyddiant.

"O ystyried fod chwyddiant yn rhedeg ar 11.1%, fel glywson ni fis diwethaf, bydd yr arian yma yn prynu llai yn anffodus," meddai ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Felly, roedd angen y cynnydd yna ond i aros ar yr un lefel.

"Hefyd 'dan ni'n debygol o weld yr economi yn arafu lawr dros y misoedd nesa'. Ac wrth gwrs, y recession mae pawb yn ei drafod flwyddyn nesa'.

"'Dan ni mewn sefyllfa lle mae cynnydd mewn gwariant, ond mae o am fod yn llai, a bydd mwy o alw am wasanaethau [llywodraeth].

"Er bod hi'n dda gweld y cynnydd yma, yn anffodus tydi o ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth i ni yma yng Nghymru."

Arian i ysgolion?

Ychwanegodd Dylan Saer, sy'n bennaeth Ysgol Gynradd Y Crwys ar Benrhyn Gŵyr, y bydd yn rhaid aros i weld faint o arian "sy'n cyrraedd yr ysgolion unigol".

"Yn bendant yr adnodd fwyaf gwerthfawr mewn ysgol yw'r staff, a'r blaenoriaeth pwysicaf yw sicrhau ein bod ni'n cadw staff," meddai.

"Dros y blynyddoedd diwethaf 'dan ni 'di gorfod torri staff, ac i fod yn gwbl onest s'dim byd ar ôl i dorri. Felly, bendant, fydd hynna yn mynd at gadw lefelau staff."