Dirwy o £300,000 i gwmni roddodd arian i Gething
- Cyhoeddwyd
Mae is-gwmni i'r grŵp gyfrannodd £200,000 i ymgyrch Vaughan Gething ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi cael dirwy yn dilyn marwolaeth un o'u gweithwyr.
Fe gafodd Anthony Bilton, 59 oed, ei daro gan gerbyd ar safle cwmni Atlantic Recycling yng Nghaerdydd yn 2019.
Fe gafodd y cwmni ddirwy o £300,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Dywedodd Mr Gething ei fod yn meddwl am y teulu, ac mae Atlantic Recycling yn dweud eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i deulu a ffrindiau Mr Bilton am y digwyddiad trasig hwn".
Roedd Anthony Bilton, o'r Barri ym Mro Morgannwg, yn paratoi i wneud gwaith cynnal a chadw pan gafodd ei daro gan gerbyd Volvo oedd yn cael ei ddefnyddio i lwytho rhawiau yn 2019.
Yn y cyfamser mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi galw ar Vaughan Gething i ddychwelyd y rhoddion ariannol i'w ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Dirwy o £300,000
Roedd Mr Bilton a oedd yn dad i ddau yn cerdded ar draws yr iard trin coed ar y pryd a dath ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i'r casgliad nad oedd yr asesiad risg yn addas na'n ddigonol ac nad oedd yn ystyried y ffaith bod gwaith yn digwydd yn yr ardal.
Fe blediodd Atlantic Recycling Limited o ardal Rhymni yng Nghaerdydd yn euog i dorri Adran 2(1) o'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Cafodd y cwmni ddirwy o £300,000 a gorchymyn i dalu £29,917.47 yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth hi i'r amlwg bod yr ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, Vaughan Gething, wedi derbyn £200,000 ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni Dauson Environmental Group, rhiant-gwmni Atlantic Recycling.
Mae David Neal yn gyfarwyddwr sydd â rheolaeth sylweddol dros Dauson Environmental Group ac Atlantic Recycling.
Mae'r holl roddion wedi'u datgan i'r Comisiwn Etholiadol, gyda chofnodion yn dangos bod gweinidog yr economi wedi derbyn dwy rodd o £100,000 yr un gan Dauson Environmental Group.
Penderfynodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, nad oedd Mr Gething wedi torri'r cod ymddygiad gweinidogol.
'Mae fy mywyd wedi chwalu'n ddarnau'
Dywedodd mab Anthony Bilton, Jason, fod ei fywyd wedi "chwalu'n ddarnau" ar ôl marwolaeth ei dad.
Ar y diwrnod dan sylw, roedd Jason yn teithio o Telford ac wedi ystyried mynd i weld ei dad tra'r oedd o'n gweithio, ond penderfynodd ei fod wedi blino gormod.
"Petawn i wedi mynd i'w weld e, mi fydden i wedi cyrraedd Atlantic Recycling rhwng 15:30-16:00... cafodd ei ladd tua 16:10.
"Bob dydd dwi'n meddwl 'petawn i ond wedi mynd i'w weld e, fe allai fod yn fyw heddiw.'
Ymateb Vaughan Gething
Mae Mr Gething wedi cydymdeimlo gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Mr Bilton, gan ddweud: "Mae'r digwyddiad yma'n dangos pa mor bwysig ydi cael y safonau iechyd a diogelwch llymaf posibl i bawb yn y gweithle. Mae'r llysoedd wedi delio â'r mater yma yn briodol.
"Mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i mi o gofio fy mod i wastad yn gefnogol iawn o hawliau gweithwyr."
Dywedodd Atlantic Recycling eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i deulu a ffrindiau Mr Bilton am y digwyddiad trasig yma ac am y golled maen nhw'n gorfod ei wynebu'n ddyddiol.
"Rydyn ni'n derbyn na fydd unrhyw gosb na dirwy yn gwneud yn iawn am y golled hon.
"Rydyn ni wedi cydweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch drwy gydol eu hymchwiliad... dywedodd y llys heddiw eu bod nhw'n cymharu dulliau Atlantic Recycling yn ffafriol gyda chwmniau eraill.
"Mae diogelwch staff yn flaenoriaeth i ni.
"Rydyn ni wedi adolygu mesurau iechyd a diogelwch ar y safle er mwyn lleihau'r risg y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd eto yn y dyfodol."
'Dylai Mr Gething ddychwelyd rhoddion'
Mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi galw ar Vaughan Gething i ddychwelyd y rhoddion ariannol i'w ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Dywedodd y cyn-weinidog, nad oedd am gael ei enwi, wrth Newyddion S4C: "Roedd y digwyddiad trasig yma yn 2019. Dylai diwydrwydd dyladwy (due diligence) fod wedi canfod y wybodaeth yma.
"Mae'n codi cwestiynau am grebwyll ac am allu Vaughan Gething i graffu ar fanylion.
"Mae achos moesol cryf i Vaughan Gething ddychwelyd y rhoddion."
Mae hi wedi dod i'r amlwg hefyd fod cwmni Dauson Environmental Group wedi derbyn £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru ym mis Chwefror y llynedd i helpu gyda phrynu fferm solar.
Byddai angen i Lywodraeth Cymru roi caniatâd i godi'r fferm solar, ond byddai Vaughan Gething yn methu gwneud hynny gan ei bod yn ei etholaeth.
Petai yn dod yn Brif Weinidog, gweinidog arall yn ei lywodraeth fyddai'n gwneud hynny.
Dywedodd Mr Gething nad oedd e'n ymwybodol o'r cynllun pan dderbyniodd y rhoddion ariannol.
Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Mr Gething wrth Newyddion S4C na fyddan nhw'n ymateb i ddyfyniad gan rywun di-enw.
Yn ogystal mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn nodi ei bryder am y rhodd ariannol i ymgyrch Vaughan Gething.
Mewn cyfres o gwestiynau mewn llythyr mae'n gofyn am sicrwydd na fydd Mr Gethin yn ymwneud â chais un o is-gwmnïau Dauson i godi fferm solar yn ardal Rhymni, Caerdydd.
Mae cais wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024