Gething: Galw am ymchwiliad i £200,000 gan gwmni troseddwr amgylcheddol
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi galw ar y prif weinidog i ddechrau ymchwiliad i roddion gafodd eu derbyn gan weinidog yr economi fel rhan o'i ymgyrch am arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Daeth hi i'r amlwg ddydd Mercher fod Vaughan Gething wedi derbyn £200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn sydd wedi'i ddyfarnu'n euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.
Dywedodd Andrew RT Davies fod yr adroddiadau yn codi cwestiynau am "grebwyll" Mr Gething.
Mae Mr Gething wedi dweud bod y rhoddion wedi eu "gwirio a'u ffeilio'n gywir" a'u "datgan i'r Senedd".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Yn y cyfamser, dywedodd cyn-weinidog Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru fod Mr Gething wedi bod yn "naïf" a'i fod wedi dangos "crebwyll enbyd".
Mae Aelod Senedd De Caerdydd a Phenarth yn sefyll yn erbyn Jeremy Miles yn y ras i olynu Mark Drakeford fel prif weinidog.
Mewn llythyr at y prif weinidog ddydd Iau, disgrifiodd Andrew RT Davies yr adroddiadau fel rhai "pryderus".
"Mae hefyd y mater bod Grŵp Amgylcheddol Dauson yn gweithredu mewn maes busnes sy'n cael ei reoleiddio gan Lywodraeth Cymru, felly mae'n bwysig nad oes unrhyw awgrym o ffafrioldeb.
"A allwch gadarnhau y byddwch yn dechrau ymchwiliad i weinidog yr economi o dan y côd gweinidogion er mwyn egluro'r mater hwn?"
Côd y gweinidogion yw rheolau mae disgwyl i weinidogion y llywodraeth eu dilyn.
Mae'n nodi: "Rhaid i weinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro'n codi, neu y gellid yn rhesymol ei weld yn codi, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat, boed yn ariannol neu fel arall."
'Mae hyn yn drewi'
Mae cofnodion yn dangos bod cwmnïau sy'n cael eu rhedeg gan Mr Neal wedi derbyn benthyciadau drwy Fanc Datblygu Cymru, corff sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru sy'n rhoi cymorth ariannol i fusnesau Cymreig.
Fel gweinidog yr economi, Vaughan Gething sy'n gyfrifol am oruchwylio Banc Datblygu Cymru.
Dywedodd cyn-weinidog, nad oedd am gael ei enwi, wrth BBC Cymru: "Mae hyn yn drewi.
"Mae cod y gweinidogion yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i weinidogion gymryd cyfrifoldeb personol dros roddion.
"Mae cymryd rhodd gan dderbynnydd arian y Banc Datblygu, pan fyddwch chi'n weinidog ar y Banc Datblygu, yn naïf ac yn dangos crebwyll gwarthus, a dweud y lleiaf."
Wrth iddo gymryd rhan mewn dadl deledu ar BBC Cymru nos Fercher, dywedodd Mr Gething fod y rhoddion i gyd wedi eu "gwirio a'u ffeilio'n iawn gyda'r Comisiwn Etholiadol" a'u "datgan i'r Senedd."
Cafodd David Neal ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei erlyn eto am beidio â chael gwared arno.
Mae Mr Neal yn gyfarwyddwr gyda rheolaeth sylweddol yn Dauson Environmental Group.
Yn 2013, cafodd ei erlyn am adael gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth ar Wastadeddau Gwent.
Clywodd ynadon Caerdydd ar y pryd fod hylif gwenwynig wedi gollwng i'r dŵr.
Cafodd Mr Neal ddedfryd o dri mis wedi ei gohirio.
Cafodd ei gwmnïau Atlantic Recycling a Neal Soil Suppliers hefyd eu herlyn - gan gael dirwyon a chostau o £202,000.
Yn 2017, cafodd ddedfryd arall wedi ei gohirio o 18 wythnos, gyda dirwyon a chostau o £230,000, ar ôl methu â chael gwared ar y gwastraff.
Mae'r safle o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Yn y ddau achos cyfaddefodd y troseddau.
Rhoddodd Atlantic Recycling a Neal Soil Suppliers gyfanswm o £38,000 i Mr Gething yn 2018.
Yn ddiweddar bu i un arall o'i gwmnïau, Resources Management UK Ltd, wynebu camau gweithredu gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ôl cwynion am yr arogl yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Roedd trigolion yn ei alw'n "fom drewdod ar steroidau".
Mae'r holl roddion wedi'u datgan i'r Comisiwn Etholiadol, gyda chofnodion yn dangos bod gweinidog yr economi wedi derbyn dau rodd o £100,000 yr un gan Dauson Environmental Group.
Cafodd un ei roi fis diwethaf, ac fe gafodd y llall ei roi bum niwrnod ar ôl i Mr Drakeford ymddiswyddo.
Derbyniodd Mr Gething hefyd roddion gan ddau gwmni arall sy'n cael eu rhedeg gan Mr Neal yn ystod hydref 2018, pan benderfynodd ddiwethaf i ymuno â'r ras i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2024