Gallai menywod traws gael eu cyfrif yn fenywod yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Fe allai menywod trawsryweddol gael eu cyfrif fel menywod fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth i sicrhau Senedd fwy cyfartal rhwng y rhywiau.
Mae Llafur a Phlaid Cymru eisiau gwneud i bleidiau gwleidyddol lunio rhestrau cyfartal o ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd mewn etholiadau ar gyfer y Senedd.
Mae deddfwriaeth ddrafft, a ryddhawyd gan grŵp o weithredwyr, yn awgrymu y gallai'r rhestrau o fenywod gynnwys ymgeiswyr sy'n bwriadu newid rhyw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y mesur wedi newid ers hynny, ond doedden nhw ddim yn fodlon dweud beth sydd wedi'i newid.
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Medi 2023
Mae Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru (WRN) wedi cael gafael ar y ddeddfwriaeth ddrafft, ac maen nhw'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddefnyddio'r gyfraith i "wreiddio ideoleg wenwynig a misogynistaidd".
Mae WRN wedi ymgyrchu yn erbyn caniatáu i fenywod trawsryweddol fynd i fannau sydd ar gyfer menywod yn unig, a hunanddiffinio rhywedd.
Ond honnodd Stonewall Cymru, grŵp hawliau LHDTC+, bod WRN yn parhau â “naratif negyddol yn erbyn y gymuned traws”.
Mae'r ddeddfwriaeth, fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn rhan o'r cynlluniau i ehangu'r Senedd gyda 36 o wleidyddion ychwanegol.
O dan y system newydd, y mae'n fwriad iddi ddod i rym erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, byddai pleidleiswyr yn dewis pleidiau yn hytrach nag ymgeiswyr unigol, gyda gwleidyddion yn cael eu hethol o restrau.
Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, hefyd eisiau newid y gyfraith fel bod y pleidiau'n llunio rhestrau cyfartal o ddynion a menywod ar gyfer etholiadau.
Mae yna honiadau nad oes gan y Senedd y grym i gyflwyno cwotâu rhywedd, ac oherwydd pryder y gallai gael ei herio yn y llysoedd, mae’r cynlluniau ar gyfer deddf cydraddoldeb rhyw wedi’u gwahanu oddi wrth y newidiadau eraill i etholiadau'r Senedd.
Mae rhan o destun drafft y Bil cwotâu rhywedd yn ei gwneud yn glir, at ddiben y ddeddfwriaeth newydd, bod “menyw yn cynnwys menyw drawsryweddol”.
Mae’n dweud “mae ‘menyw trawsryweddol’ yn golygu person sy’n bwriadu mynd trwy, sydd yn mynd trwy neu sydd wedi mynd trwy broses (neu ran o broses) er mwyn ailbennu rhyw [y person] i fenyw trwy newid nodweddion ffisiolegol neu briodoleddau eraill rhyw".
Mae'r gyfraith yn ychwanegu y gall gweinidogion Cymru ddiwygio'r adran drwy reoliadau yn y dyfodol, er mwyn "newid y diffiniad o fenyw".
'Syfrdanol'
Dywedodd Cathy Larkman o Rwydwaith Hawliau Menywod Cymru: “Mae’n syfrdanol bod y llywodraeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn defnyddio bil cwotâu rhywedd i hyrwyddo agenda sy’n tanseilio hawliau hanner poblogaeth Cymru.
“Mae’n gywilyddus eu bod nhw’n defnyddio deddfwriaeth a ddylai fod o fudd i fenywod a chynyddu cyfranogiad menywod mewn bywyd gwleidyddol, er mwyn ymgorffori ideoleg wenwynig a misogynistaidd.
“Does gan y llywodraeth ddim y pwerau cyfreithiol i wneud hyn ac maen nhw'n debygol iawn o fethu pan fydd yn cael ei herio yn y llysoedd, fel y bydd.”
Dywedodd Dr Lisa Cordery-Bruce, ymddiriedolwr Pride Cymru: "Mae menywod traws yn fenywod.
"Mae gan fenywod traws yr hawl i sefyll mewn etholiad fel eu hunain.
“Dyw person trawsryweddol agored erioed wedi cael eu hethol i’n Senedd genedlaethol ac mae’n nenfwd gwydr sydd angen ei dorri,” meddai, gan ychwanegu bod yr iaith yn y mesur drafft “yn gyson â Deddf Cydraddoldeb 2010, ac ar y sail yma y dylai fynd ymlaen".
'Llwyr gefnogi'
Dywedodd llefarydd ar ran Stonewall Cymru nad oedd y sefydliad wedi gweld y mesur drafft "ond rydym yn llwyr gefnogi unrhyw fesur i rymuso pob menyw, gan gynnwys menywod traws, i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sefyll mewn etholiad i'r Senedd".
"Mae menywod trawsryweddol yn cyfrif am 0.1% o boblogaeth Cymru.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig bod deddfwriaeth fel hyn yn cynnwys pobl traws a grwpiau lleiafrifol eraill er mwyn sicrhau bod ein cymunedau i gyd yn cael eu hadlewyrchu yn y Senedd.
“Mae’n anffodus ac yn bryderus i weld Bil Drafft sydd i fod i rymuso menywod yn cael ei ryddhau a'i gam-ddisgrifio er mwyn parhau â naratif negyddol yn erbyn y gymuned drawsryweddol,” meddai’r grŵp, gan ychwanegu bod casineb yn y byd go iawn at bobl traws “yn uwch nag erioed".
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi mynegi ei gefnogaeth i gynlluniau’r Alban ar gyfer system hunan-adnabod rhywedd.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim y pwerau i basio deddfwriaeth o'r fath - ond mae'r prif weinidog wedi dweud y byddai'n gofyn i Lywodraeth y DU am y pwerau, fel y gallai sefydlu ei system hunan-adnabod ei hun.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi rhwystro cynlluniau hunan-adnabod rhywedd Yr Alban, ac mae Llywodraeth Yr Alban yn ceisio gwrthdroi'r penderfyniad yn y llysoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwyr David TC Davies, ar X ei fod yn "bryderus am y cynnig hwn ac wedi cyfarfod â grwpiau hawliau menywod yn ddiweddar i drafod eu barn".
"Un o fy mhryderon mwyaf yw y gallai'r cynllun gael effaith andwyol ar hawliau menywod ar draws ein gwlad," meddai.
Mae disgwyl y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae gweddill y cynlluniau, gan gynnwys diwygio sut mae pleidleisio mewn etholiadau'r Senedd, eisoes wedi’u cyhoeddi ac yn symud drwy’r Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio i gyflwyno mesur i wneud ein Senedd yn fwy cynrychioliadol o’r bobl y mae’n ei wasanaethu, sy’n cynnwys darpariaethau i gyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer pobl sy’n ceisio cael eu hethol i’r Senedd.
“Mae ein model arfaethedig ar gyfer cwotâu wedi’i gynllunio i gael y siawns gorau o gael Senedd sy’n cynnwys o leiaf 50% o fenywod.
“Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Bil.”