Esgob Llanelwy: Bil Senedd yn 'ddrwg' i ddemocratiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Bil Senedd Cymru yn "newyddion drwg" i ddemocratiaeth ac atebolrwydd, yn ôl Esgob Llanelwy.
Defnyddiodd Y Gwir Barchedig Gregory Cameron ei lythyr Dydd Gŵyl Dewi i glerigwyr i gwestiynu Bil Llywodraeth Cymru gan ddweud fod un elfen ohono, yn enwedig, yn peri pryder iddo.
Yr hyn sy'n poeni'r esgob yw y bydd y bil, os yw'n pasio, yn golygu na fydd pobl yn pleidleisio dros unigolyn i'w cynrychioli yn eu hetholaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod mesur Diwygio'r Senedd "yn anelu at greu Senedd fodern, sy'n gallu cynrychioli pobl Cymru yn well".
'Ffafrio ci bach i'r blaid?'
O dan y cynlluniau byddai'r cyhoedd yn pleidleisio dros bleidiau, yn hytrach nag ymgeiswyr, gyda 96 o Aelodau o'r Senedd wedi'u gwasgaru dros 16 etholaeth.
"Mae hyn yn newyddion drwg, achos mae'n torri'r cysylltiad rhwng cynrychiolaeth leol a pherfformiad aelodau unigol o'r Senedd," medd yr Esgob Cameron.
"Byddai'n bosib i rywun y mae'r etholwyr yn ei gasáu gael ei ethol gan ei fod yn ffefryn gan y blaid. Mae hynny'n ffafrio rhywun sy'n "gi bach" i'r blaid yn hytrach na gwleidydd sy'n atebol yn lleol.
"Mae hyn yn cymryd llawer iawn o rym oddi ar y bobl gan ei roi i'r gwleidyddion gan mai'r gwleidyddion, ac nid y bobl, fydd yn penderfynu pwy sy'n cael gweithio yn ein Senedd."
Mae rhestrau caëedig yn system lle bydd pleidiau gwleidyddol yn dewis rhestr o ymgeiswyr a fydd wedyn yn cael eu rhestru yn y drefn a ddewisant.
Bydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag unigolyn.
Fe gynlluniwyd y system i geisio sicrhau bod y Senedd yn ethol pobl ar sail y gyfran o'r bleidlais a gânt.
Bydd y bil yn cael ei drafod yn y Senedd yr wythnos hon.
Os caiff y bil ei basio bydd yr etholiadau yn 2026 yn cael eu cynnal yn ôl y system newydd hon.
Ychwanegodd yr Esgob Gregory: "Dylai fod modd i ni edrych ym myw llygad ein gwleidyddion a phenderfynu a ydym yn ymddiried mewn unigolyn, nid mewn plaid.
"Gyda'r newid hwn, byddai'r blaid fwyafrifol mewn etholiad yn cael yr union wleidyddion oedd yn gwneud ati i blesio'r blaid ac nid y bobl.
"Pam ddylai esgob boeni am gwestiynau o'r fath ar Ddydd Gŵyl ein Nawddsant? Achos bod democratiaeth ac atebolrwydd yn bwysig i mi.
"Pan gefais i fy ethol yn esgob i chi yn 2009, er gwell neu er gwaeth, cefais fy ethol fel 'Gregory Cameron', nid fel [esgob] 'Efengylaidd' neu 'Gatholig' a ddewiswyd gan garfan benodol yn yr Eglwys..."
'Bydd pob pleidlais yn cyfrif'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gyda'r cynigion newydd bydd pob pleidlais yn cyfrif.
"Ar hyn o bryd mae pleidiau'n dewis eu hymgeiswyr etholaethol mewn system y cyntaf i'r felin a byddan nhw'n gwneud yr un peth mewn system sy'n seiliedig ar restrau. Y dewis wedyn i'r pleidleisiwr yw pleidleisio dros yr ymgeiswyr sydd wedi'u dewis gan unrhyw blaid, neu bleidleisio dros ymgeisydd annibynnol.
"Cafodd y system rhestr gyfrannol gaëedig ei chymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Senedd ac mae'r Bil yn cynnwys mecanwaith i adolygu'r system newydd ar ôl etholiad Senedd 2026."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2023