System ethol y Senedd 'yn rhoi gormod o rym i'r pleidiau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffordd y bydd Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol mewn peryg o "erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddion", yn ôl academydd blaenllaw.
Y llynedd fe gytunodd Llafur a Phlaid Cymru ar gynllun ar gyfer Senedd 96 sedd - sef 36 yn fwy o aelodau.
Ond dywedodd yr Athro Laura McAllister tra ei bod yn gefnogol o ddiwygio'r Senedd, fod y system o restrau caeedig - lle mae pleidiau'n dewis yr ymgeiswyr - nid yn unig yn peryglu erydu ymddiriedaeth ond hefyd yn rhoi gormod o rym yn nwylo pleidiau gwleidyddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y mesur Diwygio'r Senedd "yn anelu at greu Senedd fodern, sy'n gallu cynrychioli pobl Cymru yn well."
Mae rhestrau caeedig yn system lle bydd pleidiau gwleidyddol yn dewis rhestr o ymgeiswyr a fydd wedyn yn cael eu rhestru yn y drefn a ddewisant.
Bydd pleidleiswyr wedyn yn pleidleisio dros blaid, yn hytrach nag unigolyn.
Fe gynlluniwyd y system i geisio sicrhau bod y Senedd yn ethol pobl ar sail y gyfran o'r bleidlais a gânt.
'Gwendidau mawr'
Ond wrth siarad ar BBC Politics Wales dywedodd yr Athro Laura McAllister ei bod yn ofni bod gan y system "wendidau mawr", oherwydd ei bod yn "cael gwared ar y dewis gan etholwyr i ddewis ymgeiswyr unigol".
"Mae'n ymddangos yn rhyfedd i mi, ar adeg pan mae cymaint o ddatgysylltiad rhwng y gwleidyddion a'r cyhoedd, ein bod yn ei ddatgysylltu ymhellach," ychwanegodd.
Mae'r Athro McAllister hefyd yn ofni ei fod yn rhoi gormod o rym yn nwylo pleidiau gwleidyddol.
"Y peryg yw y byddan nhw'n gwobrwyo teyrngarwch yn hytrach na chalibr, a dwi'n meddwl na fydd hynny'n helpu amrywiaeth y dosbarth o wleidyddion rydyn ni'n ei gael ac rwy'n meddwl y bydd y cyhoedd yn mynd yn ddig yn gyflym iawn pan fyddant yn sylweddoli nad ydynt yn gallu dewis yr ymgeisydd y maent yn ei ddymuno."
Mae'r system rhestr gaeedig yn rhan o ailwampio'r Senedd a fydd yn gweld nifer y gwleidyddion yn cynyddu o 60 i 96.
Ar hyn o bryd mae etholiadau'n defnyddio cymysgedd o'r cyntaf i'r felin, lle mae'r ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn ennill sedd etholaeth, ac rhestrau mewn rhanbarthau.
Os bydd dwy ran o dair o'r Senedd yn cytuno, bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym o 2026 a gallai'r newidiadau gostio cymaint â £17.8m yn ychwanegol y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Mesur Diwygio'r Senedd: "yn anelu at greu Senedd fodern, sy'n gallu cynrychioli pobl Cymru yn well, gyda mwy o gapasiti i graffu, deddfu, a dwyn y llywodraeth i gyfrif."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022