Tri wedi eu cyhuddo yn dilyn marwolaeth plentyn
- Cyhoeddwyd
![Kinglsey Road](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/36B4/production/_132840041_pic2.png)
Mae tri pherson wedi eu cyhuddo o fod yn gysylltiedig â marwolaeth Ethan Ives oedd yn ddwy oed yn Awst 2021.
Fe wnaeth Michael Ives, 46, a Kerry Ives, 45, y ddau o Garden City, Glannau Dyfrdwy, ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Llun.
Yn ogystal â chyhuddiad o lofruddiaeth, mae'r ddau wedi eu cyhuddo o achosi neu adael i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac ymosod, cam-drin, esgeuluso neu adael plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf.
Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae Shannon Kayleigh Ives, 27, o'r Wyddgrug, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o achosi neu adael i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac ymosod, cam-drin, esgeuluso neu adael plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth.