'Hunllef' claf Ysbyty Treforys mewn cadair am 5 diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae claf sydd wedi cael ei adael i eistedd mewn cadair am bum diwrnod mewn ysbyty yn Abertawe yn dweud bod y profiad yn "hunllef".
Aeth Nicky Roberts, 42, o Abertawe, i adran frys Ysbyty Treforys nos Sadwrn ar ôl dioddef pen tost sydyn a phoenus.
Dywedodd meddygon wrtho fod ganddo hypercalcaemia - cyflwr lle mae lefelau calsiwm yn y gwaed yn rhy uchel - sy'n gallu bygwth bywyd mewn rhai achosion.
Dywedodd staff y byddai'n rhaid iddo aros i mewn ond doedd dim gwelyau ar gael, ac mae wedi bod yn cysgu mewn cadair ers hynny.
Ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod Ysbyty Treforys o dan "bwysau aruthrol gyda niferoedd uchel o gleifion angen triniaeth a gwelyau".
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "flin iawn" i glywed am brofiad Mr Roberts, ac oherwydd "galw eithriadol, mae amseroedd aros yn llawer hirach nag yr hoffen ni weld".
Dywedodd Mr Roberts: "Pan ddes i mewn nos Sadwrn dywedodd y staff wrthai bod yr amser aros yn 13 awr ond achos o ni'n achos eithaf gwael cefais fy ngweld o fewn tua tair awr.
"Roedd e'n iawn am y chwech i wyth awr cyntaf, ond erbyn dydd Sul roedd hi'n hollol amlwg nad oedd unrhyw gynllun ar gyfer sut roedden nhw'n mynd i weld y cleifion hyn i gyd."
Dywedodd Mr Roberts bod rhai cleifion gyda "gwaed drostyn nhw" a chleifion eraill oedd "yn sâl gyda phroblemau'r galon" hefyd yn gorfod cysgu mewn cadeiriau neu ar y llawr.
Dywedodd: "Dros y dyddiau diwethaf fi 'di clywed pobl yn disgrifio'r sefyllfa fel bod mewn rhyfel gyda phobl ar y llawr, a phobl sydd angen triniaeth a ddim yn ei gael.
"Ar un adeg roedd un nyrs yn gofalu am tua 20 o gleifion."
"Mae'r staff yn gwneud eu gorau ond ti'n gallu gweld bod nhw'n rhedeg ym mhobman yn treial gweld pawb.
"Os ydych chi'n gwthio pobl mor bell â hynny mae'n amlwg bod pobl yn mynd i wneud camgymeriadau.
"Mae wedi bod yn ofnadwy i weld y sefyllfa sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd."
Dywedodd Mr Roberts nad yw'n gwybod beth yw ei gynllun triniaeth, a'i fod yn poeni am faint o amser y bydd yn rhaid iddo aros yn yr ysbyty.
"Dydyn nhw ddim 'di cael digon o amser i egluro beth yn union sy'n bod gyda fi.
"Fi just yn gorfeddwl os ydw i'n mynd i fod yn iawn? Pryd byddai'n gallu mynd adref?
"Ddydd Sul wnaeth staff dweud y bydden nhw'n dechrau triniaeth fi, ond mae heb ddechrau eto."
Cafodd Mr Roberts ei symud o un gadair i gadair "ychydig yn fwy cyfforddus" arall nos Fawrth.
"Fi'n credu ces i tua 30 munud o gwsg yn ystod y pedwar diwrnod cyntaf. Mae wedi bod yn hunllef."
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fod Ysbyty Treforys "dan bwysau aruthrol, gyda niferoedd uchel o gleifion angen triniaeth a gwelyau".
"O ganlyniad, rydym ar ein lefel uchaf o rybudd - Digwyddiad Parhad Busnes.
"Mae'r staff yn gweithio'n galed iawn. Ond mae amseroedd aros yn llawer hirach nag yr hoffem, yn enwedig i'r rhai sy'n mynychu ein Hadran Achosion Brys gyda salwch neu anafiadau llai difrifol."
Ychwanegodd na ddylai pobl ymweld â'r adran achosion brys "oni bai bod hynny'n gwbl anochel" a dywedodd y dylai pobl ag anafiadau man fel dadleoliadau neu esgyrn sydd wedi eu torri, ymweld ag uned anafiadau man Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Wrth ymateb i brofiad Mr Roberts, dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "flin iawn" i glywed am ei brofiad.
Ychwanegodd llefarydd: "Dydyn ni ddim eisiau i neb aros amser hir am wely.
"Yma yn Ysbyty Treforys rydym wedi gwneud llawer o waith o amgylch ein drws ffrynt, sydd wedi'i gynllunio i gynnig y gofal cywir i'r claf iawn yn y lleoliad cywir, gan alluogi'r rhai sy'n gallu gwneud hynny'n ddiogel i fynd adref yn gynt ac, i'r rheiny sydd angen, i'w derbyn gwely cyn gynted ag y bo modd.
"Ond rydym ar hyn o bryd yn profi galw eithriadol sy'n golygu, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, bod amseroedd aros yn llawer hirach nag yr hoffem."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd2 Mawrth