Cytundeb i ddenu staff iechyd o India 'ddim yn ddigon'

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan yn arwyddo'r cytundebFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi bod yn cwrdd â rhai o'r gweithwyr a'u teuluoedd yn ystod ei hymweliad â Kerala

Dyw cytundeb newydd i ddod a 250 o weithwyr iechyd cymwysedig o India i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddim yn ddigon i lenwi bylchau staffio, yn ôl pennaeth undeb nyrsio.

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan wedi llunio'r cytundeb â Llywodraeth talaith Kerala gyda'r nod o fynd i'r afael â phrinder staff a lleihau costau.

Ond mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud bod angen bron i 3,000 yn rhagor o nyrsys.

Dywedodd Eluned Morgan y byddai'r cytundeb yn lleihau costau yn ymwneud â chyflogi nyrsys drwy asiantaethau.

Yn ôl ffigyrau'r Gwasanaeth Iechyd y llynedd, roedd bron i 4,300 o swyddi gwag - 2,300 o'r rheini ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd.

Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, bod "croeso mawr i'r gweithwyr hynny yma, ond rydyn ni'n gwybod nad yw hyn yn datrys y broblem".

"Ry'n ni'n credu bod yna tua 3,000 o swyddi nyrsio gwag - felly, yn amlwg, dyw 250 ddim am lenwi'r bylchau hynny.

"Mae 'na fuddsoddiad wedi bod mewn rhaglenni addysgol i israddedigion, ac ry'n ni'n croesawu hynny, ond dyw hynny ddim yn dod a ni yn agos at yr hyn mae byrddau iechyd yn dweud sydd ei angen arnyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Whyley yn galw ar y llywodraeth i wneud mwy i fynd i'r afael â'r prinder staff presennol

Ychwanegodd Ms Whyley bod cadw staff yn y proffesiwn yn broblem enfawr yng Nghymru.

"Os y'n ni wedi hyfforddi hyn a hyn o nyrsys, yna mae'n rhaid i ni eu cadw. Ond yr hyn dwi'n ei glywed droeon gan aelodau, yw bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yng Nghymru ddim yn ddigon i'w cadw yn y proffesiwn.

"Dwi'n meddwl bod hynny'n bechod ofnadwy gan fod Cymru yn rywle arbennig weithio. Mae 'na waith ardderchog yn cael ei wneud yma, ond mae'n rhaid buddsoddi mwy er mwyn sicrhau bod staff yn aros yma.

"Be hoffwn weld yw sefyllfa lle mae nyrsys sydd newydd gymhwyso yn dweud 'dwi eisiau gweithio yng Nghymru'."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae byrddau iechyd yng Nghymru eisoes yn recriwtio staff o dramor er mwyn llenwi bylchau staffio.

Yn ddiweddar fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyhoeddi cynllun i ddenu 900 o nyrsys o Kerala.

Ar ôl arwyddo'r cytundeb newydd, dywedodd Eluned Morgan y byddai cytundeb newydd yn lleihau costau yn ymwneud a chyflogi nyrsys drwy wahanol asiantaethau.

"Beth sy'n wahanol yma, yw'r ffaith bod hwn yn berthynas uniongyrchol rhwng y llywodraethau ac mae hynny'n golygu ein bod ni'n tynnu'r asiantaethau allan o'r broses yn gyfan gwbl.

"Ry'n ni'n gwneud hyn ar ran Cymru gyfan, felly yn hytrach na chael y saith bwrdd iechyd yn dod yma i recriwtio ei hunain, ry'n ni'n gweithredu ar eu rhan.

"Felly yn y dyfodol, bydd dim rhaid i Fwrdd Iechyd Abertawe ddod yma yn annibynnol, byddwn ni'n gwneud hynny ar eu rhan."

Pynciau cysylltiedig