Casglu biniau unwaith y mis i arbed arian yn debygol
- Cyhoeddwyd
Fe allai mwy na hanner cynghorau Cymru symud i gasglu biniau gwastraff bob tair neu bedair wythnos, dan gynlluniau posib.
Ar hyn o bryd mae 11 cyngor sir yn dal i gasglu bob pythefnos, ond fe allai newidiadau ddod i rym wrth i gynghorau wynebu pwysau ariannol a thargedau ailgylchu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gynghorau ailgylchu 70% o wastraff erbyn blwyddyn ariannol 2024-25, dim ond pump o'r 22 awdurdod oedd wedi cyrraedd y targed hwnnw erbyn 2022-23.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu bwlch ariannol o £432m.
Cyngor Sir Benfro wnaeth ailgylchu fwyaf yn ôl y ffigyrau diweddaraf, gyda chyfradd ailgylchu o 72%. Cyngor Torfaen oedd ar waelod y rhestr gyda chyfradd o 59%.
Beth ydy'r sefyllfa dros Gymru?
Conwy ydy'r unig awdurdod lleol sy'n casglu biniau gwastraff bob pedair wythnos ar hyn o bryd.
Mae Powys ymhlith 10 cyngor sy'n casglu bob tair wythnos, ac Abertawe ymysg yr 11 cyngor sy'n casglu bob pythefnos.
Mae cynghorau Gwynedd a Dinbych wedi cadarnhau y byddan nhw'n trafod newidiadau posib i'w gwasanaethau ailgylchu a gwastraff yn y dyfodol agos, ac mae Cyngor Caerffili'n ystyried newid i gasglu gwastraff bob mis yn y dyfodol.
Yn gynharach yr wythnos hon, awgrymodd cynghorwyr Sir Benfro gynnydd o 16.31% yn y dreth gyngor, a fyddai’n cynnwys newid i gasglu biniau gwastraff bob pedair wythnos.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig casgliadau bob tair wythnos, ac mae ambell gyngor yn ystyried newidiadau eraill i gasgliadau gwastraff.
Yng Ngheredigion mae yna gynnig i stopio casglu cewynnau, ac mae Sir Fynwy’n cynnig codiad o 10% yng nghost casglu gwastraff gardd.
'Mae'r bin yn llawn'
Yn ôl Anwen Edwards o Gaernarfon, sy'n byw gyda'i babi, dydy'r casgliadau gwastraff bob tair wythnos yn y sir ddim yn ddigon aml.
Dywedodd: "Dwi'm yn gwybod be' mae pobl fod i 'neud efo rubbish sydd ganddyn nhw.
"'Dan ni'n ailgylchu pretty much bob dim, ac mae bin [gwastraff] ni'n llawn pan mae'n dod bob tair wythnos.
"Mae fy mrawd i efo pump o blant ac mi fasa [newid wythnosau casglu] yn even gwaeth iddo fo nag ydi o i ni."
'Does dim dewis, nag oes?'
Mae Alun Powell Jones, sy'n byw yn ardal Caernarfon, yn canmol y gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu.
Wrth ymateb i unrhyw newidiadau i wasanaethau casglu, dywedodd: "Mi fasa hynny'n siwtio fi i'r dim.
"Mae pres yn brin, yn naturiol, tydi. Mae'n rhaid i rywbeth gael ei dorri.
"Mi faswn i'n ddigon bodlon efo wythnos yn hwyrach i fod yn onest, ond mae'n ddigon hawdd i mi ddeud hynny, dwi'n byw [ar ben] fy hun."
"Does dim dewis, nag oes? Mae'r cyngor mewn stad ariannol ofnadwy, 'swn i'n feddwl."
'Digon o drydan i gadw Penygroes i fynd'
Yn safle Llwyn Isaf yng Nghlynnog-fawr ger Caernarfon, mae'r criw yno'n ailgylchu gwastraff bwyd cynghorau Ynys Môn, Gwynedd a rhan o Sir Conwy.
Stephen Roberts yw rheolwr safleoedd Biogen yng ngogledd Cymru, sy'n creu gwrtaith a chompost o wastraff bwyd.
Mae hwnnw wedyn yn cael ei rannu gyda'r diwydiant amaeth, ac mae'r nwy ar y safle'n cael ei ddefnyddio i greu trydan i'r grid cenedlaethol.
Dywedodd: "'Dan ni'n troi'r gwastaff bwyd yn bio-energy sef nwy i redeg injan nwy i greu trydan - digon o drydan i gadw rhywle fel Penygroes i fynd bob dydd.
"Ar ôl cael yr egni o'r bwyd, 'dan ni wedyn yn ei bastureiddio fo, lladd unrhyw pathogenau posib i'w ddefnyddio ar y tir adeg y gwanwyn fel biofertiliser."
Fe fyddai newididau posib i wasanaethau ailgylchu, meddai, "yn golygu bod y safle yn gallu gweithio 100%, drwy'r adeg.
"Ar hyn o bryd 'dan ni'n ychydig yn fyr o beth ddyla ni ei gael i gadw'r lle i fynd i'r potensial sydd gan y safle fel bod ni'n gallu cynhyrchu hynny faint o egni allan o'r bwyd gwastraff 'dan ni'n ei gael."
Prinder arian sy'n gorfodi cynghorau i ystyried newidiadau, yn ôl yr arbenigwr cyllid llywodraeth leol, Dr Marlene Davies o Brifysgol De Cymru.
"Maen nhw'n gorfod edrych lle mae nhw'n gorfod cwtogi ar wasanaethau a rhan o hyn yw edrych ar y ffordd mae nhw'n casglu sbwriel," dywedodd.
"Mae'n rhaid i lywodraethau lleol gasglu sbriwel, ond pryd mae nhw'n ei gasglu fe a shwt mae nhw'n ei gasglu - mae lan iddyn nhw.
"Wrth gwrs, nawr mae nhw'n gorfod torri'n ôl ar gostau, os ydi o'n golygu bod nhw'n gorfod casglu sbwriel bob tair wythnos yn lle bob pythefnos mae'n mynd i arbed peth cost."
Ychwanegodd: "Mi fydd y treth gyngor yn codi. Does dim digon o arian gan y llywodraethau yma i ddarparu'r gwasanaethau sydd ganddyn nhw.
"Mi fydd pobl yn gofyn pam eu bod yn talu mwy ond yn cael llai o wasanaethau.
"Dyw pobl ddim yn ystyried y ffaith mai dim ond 30% o'u harian nhw sy'n mynd tuag at dalu am y gwasanaethau yma.
"Mae'r gwasanaethau mwyaf pwysig, sef addysg a gofal - mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny, ac mae rheiny yn cymryd 70% o ran fwyaf o gyllid llywodraethau lleol."
Arbed arian a chyrraedd targedau
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n rhybuddio y bydd cynghorau'n gorfod edrych ar yr holl opsiynau posib er mwyn lleihau costau gwasanaethau, gan gynnwys casgliadau gwastraff llai aml.
“Er bod hyn yn helpu i greu arbedion o ran costau staff a thanwydd, mae hefyd yn hanfodol cyrraedd y targed cyfradd ailgylchu o 70% gyda’r bwriad o symud tuag at fod yn ddi-wastraff," dywedodd llefarydd.
"Lle mae cynghorau wedi lleihau pa mor aml mae cynghorau yn casglu biniau gwastraff, dangoswyd bod hyn yn annog pobl i wneud defnydd llawnach o'u casgliadau ailgylchu, gan helpu cynghorau i gyflawni'r ddau nod.
“Yn ogystal â hyn, mae rhai cynghorau wedi cymryd camau ychwanegol fel lleihau casgliadau gwastraff gwyrdd neu godi tâl am y gwasanaeth hwn.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Er ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ail-lunio ein cyllideb yn sylweddol, rydym yn diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd trwy ddarparu'r cynnydd o 3.1% i awdurdodau lleol a addawyd y llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd blynyddol o £5.7bn.
“Rydyn ni’n rhoi arian mawr a chymorth arbenigol i helpu’n hawdurdodau lleol i ‘fuddsoddi i arbed’, i wneud eu gwasanaethau’n fwy effeithiol a lleihau eu costau tra’n cynyddu eu hincwm trwy werthu’r adnoddau a gesglir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023