Pam fod plant yng Nghalifornia yn canu Sosban Fach?
- Cyhoeddwyd
Mae Sosban Fach yn gân adnabyddus iawn yng Nghymru - ond mae rŵan yn boblogaidd gyda phlant yng Nghalifornia hefyd.
Ac fel mae'r clip fideo yma yn ei ddangos, maen nhw'n amlwg yn cael hwyl ar y canu.
Mae'r diolch i Lawrence Delaney, sy'n wreiddiol o'r Rhyl ond yn byw yn yr Unol Daleithiau ers ugain mlynedd, lle mae'n dysgu mewn ysgol gynradd.
Dywedodd bod byw dramor wedi ei wneud o'n fwy ymwybodol o'i Gymreictod ac er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni fe wnaeth fideo o blant Highland Elementary School, Concord, California, yn canu cân Gymraeg.
Sosban Fach
Eglurodd Lawrence, aeth i Ysgol Llywelyn ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl, ei fod yn dysgu caneuon Cymraeg i'w ddosbarthiadau yn gyson, ac mai Sosban Fach ac Yma o Hyd ydi'r ffefrynnau.
Meddai: "Maen nhw'n gallu canu cyfieithiad Saesneg o Sosban Fach ond maen nhw i gyd yn dweud nad ydi o'n gwneud synnwyr ac yn swnio'n well yn y Gymraeg, felly tyda ni ddim wir yn canu'r fersiwn Saesneg.
"Dros y blynyddoedd, mae rhai o'r plant dwi wedi eu dysgu a'u teuluoedd wedi ymweld â Chymru pan maen nhw ar daith i Brydain, ac wedi ymweld yn benodol â rai o'r llefydd dwi wedi son amdanyn nhw yn y dosbarth - sy'n anhygoel. Mae rhai hyd yn oed wedi aros gyda fy rhieni a chartref fy chwiorydd."
Llanfairpwll....
Mae'r athro yn dysgu'r plant am Gymru ac yn gosod her iddyn nhw ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn ysgol - sef dysgu sut i ddweud Llanfairpwll… y fersiwn llawn o'r enw.
"Mae'r rhan fwyaf wedi ei feistroli ar ôl wythnos," meddai.
Ac er ei fod wedi byw i ffwrdd o Gymru ers chwarter canrif - gan ddysgu yn Dubai, Abu Dhabi a'r Almaen cyn symud i Galifornia - mae Lawrence yn parhau i ddathlu dydd Gŵyl Dewi, a'i blant Rhys a Gwynedd yn gwisgo'r cennin Pedr.
Hefyd o ddiddordeb: