Dod o Wlad Belg, byw'n Uganda... a siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Dydi Lowri Elin Davies o Wlad Belg a sydd bellach yn byw yn Uganda erioed wedi byw yng Nghymru ond mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Asesydd argyfwng dyngarol i fudiad Impact Initiatives yw Lowri. Ar hyn o bryd mae hi'n byw ym mhrifddinas Uganda, Kampala ac yn gweithio ar brosiectau dyngarol yn Ethiopia.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, 8 Mawrth, mae Lowri'n cael seibiant o'i gwaith gan fod y diwrnod yn wyliau cyhoeddus yn Uganda.
Ond cyn gwybod am hynny, sut mae Belges yn Uganda'n siarad Cymraeg?
Siarad Cymraeg
Yn wyres i Steve Davies sy'n dal i fyw'n Llangeitho, a'r ddiweddar Jen Davies, fe symudodd tad Lowri i Frwsel er mwyn gweithio fel athro mewn ysgol ryngwladol.
Fe gyfarfu â mam Lowri sydd o Wlad Belg ac fe briododd y ddau a chael dau o blant.
"Pan wnaeth Mam a Dad gwrdd â'i gilydd oedden nhw'n siarad gyda'i gilydd yn Saesneg. Dyna oedd y common language," meddai Lowri.
"A wedyn pan wnaethon nhw benderfynu cael plant, oedd Mam yn dweud, 'dwi isio'r plant i siarad Fflemeg' a Dad yn dweud, 'Ie, dwi isio'r plant i siarad Cymraeg.'"
Er mwyn gwireddu eu dymuniad aeth tad Lowri ati i ddysgu Fflemeg, ac aeth ei mam ati i ddysgu Cymraeg.
"Pan wnes i gael fy ngeni doedden ni ddim yn siarad Saesneg gartre," eglura Lowri.
"Jest yn siarad Cymraeg a Fflemeg gartref, mynd i ysgol Fflemeg a wedyn nath Mam a Dad symud i Awstralia pan o'n i'n wyth a fan'na oedden ni'n dysgu Saesneg.
"Gafon ni'n twlu i mewn i'r ysgol Saesneg a dwi'n cofio ddim deall be' oedd y plant eraill yn dweud. Roedd Saesneg yn drydydd iaith i ni."
Gwyliau'n Llangeitho
Wrth adlewyrchu ar ei phlentyndod mae Lowri'n hynod ddiolchgar i'w rhieni am ei chyflwyno i'r iaith Gymraeg. Ac mae'n teimlo bod siarad mwy nag un iaith o oedran ifanc wedi ei galluogi i ddysgu ieithoedd eraill yn haws, gan gynnwys Ffrangeg, Sbaeneg, ac ychydig o Luganda ac Amharic.
"Os ydy plant yn cael eu cyflwyno i ieithoedd pan maen nhw'n fach, mae ieithoedd yn dod yn naturiol iawn," meddai.
"Gyda Fflemeg, Cymraeg, Saesneg dwi ddim yn meddwl dwi jest yn siarad. Mae ieithoedd Affrica yn hollol wahanol ac felly'n anoddach i fi."
Arferai Lowri a'i brawd ymweld â Llangeitho'n gyson dros wyliau'r ysgol ac mae'n cofio dychryn wrth sylweddoli mai canran isel o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg.
"Yn Llangeitho oedden ni jest rownd pobl oedd yn siarad Cymraeg, oedden ni byth yn siarad Saesneg pan oedden ni'n mynd i Langeitho.
"Pan o'n i'n fach do'n i ddim rili'n gwybod bod lot o bobl yng Nghymru ddim yn siarad Cymraeg, o'n i'n meddwl fod pawb fan hyn yn siarad yr iaith. Ar wyliau'n Llangeitho ro'n i'n chwarae efo plant eraill yn Gymraeg, sgwrsio gyda Mam-gu a Dad-cu yn Gymraeg felly do'n i ddim yn gwybod am densiynau'r iaith.
"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn i siarad Cymraeg."
Gwaith
Cyn gweithio i fudiad Impact Initatives yn awgrymu pa wledydd y byd sydd angen cymorth dyngarol a lle mae'r angen fwyaf, bu Lowri'n gweithio i gwmni Afripads yn Uganda; cwmni sy'n cynhyrchu padiau mislif sy'n gallu cael eu hail-ddefnyddio. Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli ar raglen yn Nepal sy'n hybu gofal iechyd rhyw.
Yn ôl Lowri, mae cael amrywiaeth o brofiadau gwirfoddol a chyflogedig, a gwneud cwrs meistr mewn gofal iechyd rhyw wedi ei helpu i gael gwaith yn rhyngwladol.
"Wnes i astudio hanes a gwleidyddiaeth yn y brifysgol yn Bath i ddechrau a dwi'n meddwl yn fan'na ges i fy nghyfeirio i weithio'n rhyngwladol. Wedyn wnaeth arbenigo mewn sexual and reproductive health care research fy helpu i ffeindio gwaith yn Affrica."
Beth fyddai cyngor Lowri i ferched wrth benderfynu ar drywydd eu gyrfa?
"Mae ymchwil yn dweud pan mae dynion yn edrych ar ddisgrifiad swydd maen nhw angen ffitio i dri allan o ddeg o'r criteria er mwyn teimlo eu bod yn gymwys i drio am y swydd, ond mae merched yn teimlo bo' nhw angen ffitio i naw allan o ddeg o'r criteria felly dwi'n meddwl, meddyliwch fel dyn!
"Dwi'n cyfarfod lot o ddynion sy'n hyderus yn y gweithle a lot o ferched sy'n ansicr. A dwi'n dweud, be' ydy'r gwaetha wneith ddigwydd os wyt ti'n trio?
"Beth fyddai dyn yn ei ddweud petai'n trio am y swydd? Mae angen i ferched fod yn fwy hyderus yn y byd gwaith a chredu ynddyn nhw eu hunain."
Merched Uganda a Mam-gu Llangeitho
O ferched Gwlad Belg i ferched Cymru, o ferched Uganda i ferched Ethiopia, mae Lowri'n ferch, wyres, ffrind a chyd-weithwriag i ferched led-led y byd.
 hithau'n rhannu ei hamser yn Uganda ac Ethiopia ar hyn o bryd, "mae gwytnwch merched y rhan yma o'r byd yn fy rhyfeddu," meddai.
"Mae pobl lot fwy community orientated yma. Os yw dy gyfneither yn marw ac mae ganddi blant, byddan nhw'n dod yn blant i ti hyd yn oed os nad oes gen ti bres.
"Mae merched yma'n gweithio'n galed, gofalu am eu plant a phlant pobl eraill. Maen nhw'n gwneud y gorau o'u hamgylchiadau. Maen nhw'n gweithio, ffermio, casglu dŵr. Dydy merched yma ddim mewn safle o bŵer. Maen nhw'n haeddu llawer mwy, a mwy o barch.
"Dwi'n teimlo fel fod gen i Antis yma sy'n gyd-weithwyr i mi, wastad yn gofyn sut ydw i ac yn ffeind."
Ond mae un ddynes bwysig iawn yn parhau i ysbrydoli Lowri hyd heddiw, sef Mam-gu Llangeitho, y ddiweddar Jen Davies.
"Mam-gu oedd y dylanwad fwyaf arna'i i weithio dramor. Roedd hi wastad yn dweud wrtha i gymryd cyfleoedd. Athrawes oedd hi ei hun felly roedd addysg yn bwysig iddi, ac roedd hi'n fy atgoffa bod pawb ddim yn cael yr un cyfle.
"Mae hi bob tro yng nghefn fy meddwl ond roedd hi'n wahanol iawn i fi hefyd ac yn grefyddol iawn.
"Gawson ni drafodaeth am ffeminyddiaeth unwaith, wnaeth hi ddeud wrtha i i smwddio ei tea towels. A wnes i ddweud 'pam bod angen i mi wneud hynny - dwi ddim yn cytuno' a dywedodd hi, 'ti angen dysgu gwneud hynny i ffeindio gŵr'," chwarddai Lowri wrth gofio'n annwyl amdani.
"'A dywedais i, 'dwi ddim eisiau priodi unrhyw un sydd isio i mi smwddio tea towels' a gawson ni ddadl fawr am hyn. Ond wnaeth hi dderbyn ein gwahaniaethau. Mi oedd hi sicr yn ffeminydd, ac yn annog ni i ddilyn ein llwybr ein hunain."
Beth sydd nesaf?
Er ei bywyd prysur sydd yn bell o'i magwraeth yng Ngwlad Belg, mae Lowri'n mwynhau bywyd yn Uganda ar hyn o bryd gyda'i chariad sydd o'r wlad a'i chymuned o ffrindiau yno.
Ond bob cyfle gaiff hi, does dim yn well gan Lowri na mynd i weld ei Thad-cu yn Llangeitho a dilyn yr un drefn:
"Dwi'n mynd 'nôl a dwi'n gwybod be' fyddai'n 'neud bob tro. Mae Dad-cu a fi yn mynd am wâc, yr un wâc bob tro gyda'r Jack Russell, wedyn mynd i'r caffi i gael bwyd. Wedyn dydd Sul ni'n mynd i'r pub i gael Sunday lunch a dwi wrth fy modd yn clywed ei jôcs a'i straeon."
Neges ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
"Mae cyfeillgarwch merched mor bwysig. Rydyn ni fel merched mor dda am gefnogi ein gilydd ond rydyn ni'n gallu siarad yn wael amdanon ni ein hunain.
"Pe bai merched yn teimlo 'run fath am eu hunain â maen nhw am eu ffrindiau, bydden ni'n rheoli'r byd."
Hefyd o ddiddordeb: