Creu corff newydd i gynghori ar ddarlledu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Galeri

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i sefydlu corff newydd i roi arweiniad ar ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru.

Fe fydd y Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu hefyd yn llywio polisi yng Nghymru ac yn ymateb i "newidiadau niferus sydd ar y gorwel".

Mae yna dystiolaeth gynyddol bod "y sefyllfa bresennol yng Nghymru yn anghynaladwy", yn ôl Dawn Bowden, y dirprwy weinidog sydd â chyfrifoldeb am faterion darlledu yng Nghymru.

Dywedodd hefyd y bydd y corff newydd "yn archwilio sut byddai strwythur llywodraethu effeithiol ar gyfer S4C yn y dyfodol yn gweithio".

Roedd yna alw am gorff o'r fath mewn adroddiad gan banel arbenigol fis Awst y llynedd.

Cafodd y Panel Arbenigol ar yr Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ei greu fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dawn Bowden yn cydnabod bod angen cefnogaeth Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau darlledu

"Rydym wedi ystyried adroddiad a chanfyddiadau'r panel yn ofalus," dywedodd Ms Bowden mewn datganiad.

"Rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli pwerau dros gyfathrebu a darlledu i Gymru ond rydym yn cydnabod y bydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol ac ariannol Llywodraeth y DU."

'Rhaid sicrhau llais cryfach i Gymru'

Cyfeiriodd at alwadau blaenorol i ddatganoli mwy o bwerau darlledu i Gymru, gan gynnwys yn adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ddechau'r flwyddyn.

Dywedodd: "Yn unol â barn y panel arbenigol, a'r corff cynyddol o dystiolaeth annibynnol, credwn fod angen gweithredu i ddiogelu darlledu cyhoeddus ac i wella amgylchedd y cyfryngau yn gyffredinol yng Nghymru.

"Rhaid inni sicrhau bod gan Gymru lais cryfach ac nad yw'n cael ei gadael ar ôl wrth i ddarlledu a sector ehangach y cyfryngau fynd trwy newid cyflym.

Mae'n fwriad i'r corff newydd gynnwys "cynrychiolwyr o gyrff rhanddeiliaid allweddol" er mwyn sicrhau "cyngor rheolaidd a dibynadwy... i Lywodraeth Cymru mewn sector sy'n datblygu'n gyflym".

Fe fydd yn argymell camau i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru a gwella atebolrwydd, ac yn anelu at gryfhau'r berthynas gyda'r rheoleiddiwr Ofcom a chyfrannu "at gryfhau democratiaeth Cymru".

Fe fydd hefyd, medd Ms Bowden, "yn archwilio sut byddai strwythur llywodraethu effeithiol ar gyfer S4C yn y dyfodol yn gweithio, a sut y gellid ei greu, yn ogystal ag awgrymu cyfleoedd tebyg yng Nghymru i ddarlledwyr eraill".

"Yn olaf," ychwanegodd, "bydd yn ceisio archwilio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen pe bai darlledu yn cael ei ddatganoli a bydd yn parhau i adolygu'r achos dros sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru yn y dyfodol".

Mae trafodaethau'n parhau ynghylch trefniadau manwl ar gyfer y corff newydd, gan gynnwys ei aelodaeth" ac fe fydd yna fwy o fanylion "yn y dyfodol agos".

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod creu'r corff yn "gam hanesyddol" tuag at ddatganoli grymoedd darlledu i Senedd Cymru.

Dywedodd Mirain Owen o'r mudiad: "Wrth i ni fynd i'r afael gyda'r heriau sylfaenol sy'n wynebu'r maes yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth darlledu Cymraeg, mae'n hanfodol bod y penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran bobl Cymru."