Darlledu: 'Angen corff cyhoeddus newydd' medd panel arbenigol

  • Cyhoeddwyd
teleduFfynhonnell y llun, Luciana Guerra

Mae adroddiad yn galw am greu corff cyhoeddus newydd i "ddiwallu anghenion darlledu a chyfathrebu" yng Nghymru.

Cafodd Panel Arbenigol ar yr Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ei greu fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae adroddiad y panel yn rhybuddio bod y sector yn wynebu newidiadau cyflym gyda llai o bobl yn gwylio teledu gan ddarlledwyr yng Nghymru.

Dywed awduron yr adroddiad y gallai corff newydd, yn annibynnol ar y llywodraeth, osod y sylfaen ar gyfer trosglwyddo pwerau dros ddarlledu yng Nghymru i Gaerdydd o Lundain.

'Pryderus'

Mae'r panel "yn bryderus nad oedd yn ymddangos bod llawer o feddwl tua'r dyfodol nac arloesi yn digwydd i ystyried sut gallai darlledu a chyfathrebu edrych yng Nghymru yn y dyfodol.

"Ar hyn o bryd nid oes unrhyw sefydliad yn gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth strategol, sy'n benodol i Gymru yn y maes hwn," meddai.

Mae'r panel hefyd "yn bryderus nad oedd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i wneud cynnwys Cymraeg yn fwy amlwg ac yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw yng Nghymru drwy dechnoleg lleoli daearyddol".

Dywed yr adroddiad y bydd y 10 mlynedd nesaf yn "gyfnod hollbwysig i'r sector, gyda threfniadau trwyddedu presennol ITV yn dod i ben yn 2024, a Siarter y BBC yn dod i ben ddiwedd 2027.

"Bydd y ddwy garreg filltir yn cael effeithiau penodol ar Gymru, gan gynnwys sefyllfa ariannu S4C yn y dyfodol."

Ymhlith egwyddorion allweddol yr Awdurdod Cysgodol i Gymru, medd y panel, fyddai "cael dull gweithredu uchelgeisiol ac eang ar gyfer y Gymraeg, gan adeiladu ar lwyfannau presennol a gwella arloesedd a chynnwys digidol".

A hefyd "rhoi cyngor ar sut y gellid pontio'r bwlch presennol rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan hwyluso'r gwaith o brofi a dysgu dulliau newydd".

Beth arall ddywedodd y panel?

Ar ffigyrau gwrando radio:

"Mae'r nifer sy'n gwrando ar y radio ledled Cymru yn debyg i'r DU, oni bai am y ffaith bod y BBC yn llawer mwy poblogaidd.

"Mae gan BBC Radio Cymru ystod ddemograffig eang o wrandawyr o ran oedran a chefndir economaidd-gymdeithasol.

"Pobl dros 65 oed sy'n gyfrifol am dri chwarter oriau gwrando BBC Radio Wales, sy'n codi cwestiynau ar unwaith ynghylch gwasanaethu pobl iau nad ydynt yn siarad Cymraeg."

Ar fodlonrwydd y gynulleidfa:

"Mae bodlonrwydd eang â darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru: mae cynulleidfaoedd yn fwyaf bodlon â darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

"Roedd 72% o'r rheiny sy'n gwylio sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y chwe mis diwethaf yn dweud hynny, a dim ond 9% oedd yn anfodlon.

"S4C oedd â'r sgôr isaf, sef 60%."

Ar boblogrwydd S4C:

"Mae S4C yn cyfrif am 1% yn unig o'r teledu sy'n cael ei wylio a 3% ymysg siaradwyr Cymraeg, ond mae gwylio wedi aros yn eithaf cyson dros y pum mlynedd diwethaf."

"Roedd 505,000 o bobl yn gwylio S4C yn y DU mewn wythnos arferol yn 2022. Yng Nghymru, roedd yn cael ei wylio gan 10% o'r boblogaeth sy'n berchen ar deledu bob wythnos.

Er mai dim ond 5% o gyrhaeddiad wythnosol sydd gan S4C ymysg pobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru ac 8% ymysg pobl 25-44, roedd ei chyrhaeddiad yn uwch ymysg pobl 45-64 oed (12%) a phobl dros 65 oed (17%)."

Ffynhonnell y llun, BBC/Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y panel ei gyd-gadeirio gan Elin Haf Gruffydd Jones, ac roedd Llion Iwan a Nia Ceidiog ymhlith yr aelodau

Cafodd y panel arbenigol ei gyd-gadeirio gan y darlledwr Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Yr aelodau eraill oedd Carwyn Donovan, Nia Ceidiog, Clare Hudson, Dr Llion Iwan, Ceri Jackson, Shirish Kulkarni, Richard Martin, Arwel Ellis Owen, Dr Ed Gareth Poole a Geoff Williams.

£704,000 y flwyddyn

Dywed yr adroddiad y gallai'r corff cyhoeddus newydd gostio £704,000 y flwyddyn.

Cafwyd gostyngiad o 37% mewn ffigyrau gwylio teledu llinol ers 2010, ac mae hyn wedi digwydd hyd yn oed yn gyflymach dros y 2 flynedd diwethaf.

Mae'r newidiadau hyn yn arbennig o amlwg yn y grwpiau oedran iau sy'n gwylio tua 75-80% yn llai o deledu na'u cyfoedion ddegawd yn ôl.

Mae ffigyrau gwylio rhaglenni Cymreig y BBC ac ITV yn cyfrif am ddim ond 4% o gyfanswm yr amser gwylio teledu, gyda'r gwylio'n gogwyddo'n drwm tuag at y rheiny dros 65 oed.

Rhwng 2010 a 2022, medd yr adroddiad, bu gostyngiad o 62% yng nghyfanswm y rheiny o dan 45 oed sy'n gwylio rhaglenni rhwydwaith o Gymru.

Dywedodd y gweinidog diwylliant Dawn Bowden y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion y panel, dolen allanol.

Ymateb

Beirniadodd Tom Giffard ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y posibilrwydd o "wario dros £700,000 y flwyddyn ar siop siarad i drafod datganoli darlledu i Gymru".

Gyda "rhestrau aros ddwy flynedd annynol, a'r cyfraddau cyflogaeth gwaethaf yn y DU, ni ddylai hyn fod yn flaenoriaeth," meddai.

Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru ar ddarlledu, bod "cyfrifoldeb nawr ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion yn yr adroddiad a chymryd camau ar unwaith i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol".

Ers tro mae ymgyrchwyr iaith wedi bod yn galw am ddatganoli darlledu, ac meddai Mirain Owen ar ran Cymdeithas yr Iaith, "Mae hwn yn adroddiad pwysig a phellgyrhaeddol sy'n agor pennod newydd yn hanes cyfryngau Cymru.

"Mae cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd datganoli'r grym dros faes darlledu a chyfathrebu o Lundain i Senedd Cymru, ac rydyn ni'n falch bod Llywodraeth Cymru'n mynd ati i baratoi ar gyfer hynny er mwyn sicrhau bod penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru."