'Siomedig iawn' bod gwasanaeth Cymraeg OVO yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni OVO Energy yn cael eu beirniadu am roi'r gorau i gynnig gwasanaethau Cymraeg i'w cwsmeriaid.
Mae'r cwmni ynni wedi cadarnhau wrth Cymru Fyw y byddan nhw'n dod â'u llinell ffôn Gymraeg i ben, ac na fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei hanfon yn Gymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Bydd biliau Cymraeg yn dod i ben ym mis Mawrth, a bydd y gefnogaeth benodol drwy gyfrwng y Gymraeg i gwsmeriaid yn parhau tan ddiwedd Mai."
Mae'r cwmni'n dweud wrth gwsmeriaid y gallan nhw "ddefnyddio technoleg ar y we i gyfieithu" eu biliau sy'n "sarhaus" yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Mae Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n siomedig.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones: "Rwyf wedi cysylltu ag OVO Energy yn gofyn am gyfarfod i drafod y sefyllfa yn y gobaith y byddant yn barod i ystyried posibiliadau eraill, tra ar yr un pryd yn eu hatgoffa o'u cyfrifoldeb i'w cwsmeriaid yng Nghymru."
Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, eu bod yn "galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu fel bod cwmniau fel OVO yn cael eu gorfodi i ddefnyddio'r Gymraeg".
'Nifer fechan o gwsmeriaid'
Yn ôl OVO Energy, nifer fechan o gwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac maen nhw "wedi cysylltu â'r 104 o gwsmeriaid hynny i ddweud wrthyn nhw am y newid".
"Ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben, bydd gan gwsmeriaid yr opsiwn i edrych ar eu biliau ar yr app neu ofyn amdanyn nhw ar ffurf e-bost, er mwyn eu galluogi nhw i ddefnyddio technoleg i gyfieithu'r manylion."
Dywedon nhw hefyd eu bod nhw'n "ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra".
Y llynedd, cyhoeddodd banc HSBC eu bod yn dirwyn eu gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg i ben ym mis Ionawr 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC ar y pryd eu bod "wedi ymroi i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg" ond bod rhaid cyflwyno newidiadau oherwydd "niferoedd isel iawn" y galwadau i'r gwasanaeth ffôn.
Yn ôl HSBC doedd y gwasanaeth Cymraeg ond yn derbyn 22 galwad y dydd, o'i gymharu â 18,000 i'r gwasanaethau Saesneg.
Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan wleidyddion.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae penderfyniad OVO Energy a banc HSBC yn profi bod angen ehangu ar y safonau iaith "er mwyn gorfodi cwmnïau preifat i ddefnyddio'r Gymraeg".
Ychwanegodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n amlwg bod OVO ddim yn gweld bod angen iddyn nhw weithredu'n ddwyieithog yng Nghymru... maen nhw'n ddigon hapus gwneud elw yng Nghymru a cheisio denu cwsmeriaid ond dydyn nhw ddim yn gweld bod rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg.
"Mae'n gwbl angenrheidiol i gyrff fel hyn gael eu dal yn atebol i orfodi nhw i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Ar hyn o bryd mae gynnon ni fesur y Gymraeg 2011 - felly mae 'na dros 10 mlynedd ers hynny ac mae'r byd wedi symud ymlaen llawer - ac ar ran cyrff preifat fel cwmnïau ynni, banciau, archfarchnadoedd, dydyn nhw ddim yn cael eu cynnwys y ddeddf, felly mae'n fater o ymestyn y ddeddfwriaeth fel bod cyrff preifat fel hyn yn cael eu cynnwys.
"Dydy hyn ddim yn fater o faint o alw sydd 'na... mae'n fater bod ganddon nhw ddwy iaith swyddogol yng Nghymru ac felly dyna ddylai fod y norm ydi gweithredu'n ddwyieithog ar bapur a bod opsiwn i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Os 'dan ni o ddifri' am dyfu'r Gymraeg a chyrraedd miliwn o siaradwyr, mae'n rhaid i bobl weld bod 'na bwrpas a bod cyfle i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd mewn sefyllfaoedd cwbl gyffredin."
Wrth ymateb i'r ffaith bod OVO yn gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio Google Translate i gyfieithu unrhyw ohebiaeth, dywedodd: "Mae'n sarhaus... dyw e ddim yn fater o fod pobl ishe gweld hyn yn Gymraeg fel bod dim pwrpas iddo fe... mae'n fater o bo ni'n gallu gweld ein hiaith ni ym mhob agwedd o'n bywydau ni a bod statws gyfartal a bod defnydd o'r Gymraeg."
Wrth ymateb, mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud y bydd mwy o gyrff yn dod o dan Safonau'r Gymraeg.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones: "Rydym wedi cynnal ymchwiliad safonau i gwmnïau ynni ac wedi cyflwyno'r adroddiad i Lywodraeth Cymru i'w ystyried o ran dod â'r cwmnïau hyn o dan Safonau'r Gymraeg.
"Fel rhan o'n gwaith parhaus a'r cytundeb cydweithio presennol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru rydym am ddod â mwy o gyrff o dan Safonau'r Gymraeg cyn diwedd y tymor hwn o'r Senedd, gan gynnwys darparwyr dŵr, cymdeithasau tai a chwmnïau rheilffyrdd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n siomedig iawn o glywed y newyddion yma. Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn flaenoriaeth i ni, ac rydyn ni am weld cynifer o gyfleoedd â phosibl i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
"Rydym yn falch fod Comisiynydd y Gymraeg wedi cysylltu gydag OVO i drafod y mater a'u hatgoffa o'u dyletswydd i'w cwsmeriaid yng Nghymru.
"Nid yw paratoi rheoliadau safonau ar gyfer cwmnïau ynni yn rhan o'r rhaglen waith sydd wedi ei gytuno o fewn cyfnod y Senedd hon.
"Rydym ar hyn o bryd yn symud ymlaen gyda pharatoi rheoliadau safonau fel sydd wedi ei gytuno yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sef safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus sydd y tu allan i'r gyfundrefn safonau ar hyn o bryd, cymdeithasau tai, a thrafnidiaeth gyhoeddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023