Galw am ddeddfau cryfach ar ôl canfod ceffylau marw ar dir comin

  • Cyhoeddwyd
Lleoliad lle roedd y ddau garcas ceffy

RHYBUDD: Mae'r erthygl yn cynnwys lluniau all beri gofid.

Mae fideo o ddau garcas ceffyl ar fynyddoedd y Preselau wedi eu disgrifio gan elusen lles ceffylau fel rhywbeth "erchyll".

Roedd y deunydd fideo, a adolygwyd gan Ymddiriedolaeth Ceffylau a Merlod Lluest, yn dangos y ceffylau ar Gomin Wern ym Mynachlogddu, Sir Benfro.

Mae'r elusen nawr yn galw am ddeddfau llymach ar les anifeiliaid yng Nghymru.

'Roedd yr arogl yn ofnadwy'

Cafodd dau garcas ceffyl eu darganfod gan Anita, marchoges ceffylau lleol, ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy'n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fis Chwefror 2023.

Mae Anita'n honni fod dau geffyl byw ar y tir hefyd.

Dywedodd: "Es i ar lwybr y ceffylau ac o fewn tua 50 troedfedd roedd y carcas cyntaf, roedd yr arogl yn ofnadwy."

Wedi'i dychryn gan yr hyn a welodd, fe ffilmiodd y golygfeydd ar ei GoPro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anita'n dweud ei bod yn cael hunllefau ar ôl gweld y ceffylau

"Mae e wedi effeithio arna i'n ddrwg" meddai, "i'r pwynt lle dwi wedi dihuno yng nghanol y nos gyda hunllefau."

Mae'n honni iddi rybuddio Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 2021 nad oedd y tir yn addas ar gyfer pori yn ystod y gaeaf, ddwy flynedd cyn iddi ddarganfod y ceffylau marw.

Wrth adolygu'r deunydd fideo a anfonwyd at BBC Cymru, disgrifiodd elusen lles ceffylau y golygfeydd o Fynachlogddu fis Chwefror y llynedd fel rhai "erchyll".

Dywedodd eu rheolwr gweithrediadau, sy'n un o 17 swyddog lles yn y DU, Dionne Shuurman: "Mae dau garcas yna. Os fyddai rhywun yn ymweld â nhw'n ddyddiol, fydden nhw ddim dal yno, wedi pydru. Mi fydden nhw wedi cael eu symud."

Gan gyfeirio at reolwyr y tir, dywedodd yr elusen: "Os ydyn nhw'n rhoi trwydded i bori yn yr ardaloedd hyn, mae angen iddo gael ei gyflenwi'n addas, mae angen iddi fod yn addas ar gyfer y math o anifail sy'n pori yna.

"Mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr fod y bobl yna yn gwneud archwiliadau iechyd rheolaidd i sicrhau lles yr anifail."

'Cyfrifoldeb y perchennog' yw lles yr anifail

Mae Comin Wern ym Mynachlogddu yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy'n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mewn datganiad, fe ddywedon nhw fod gan yr awdurdod "hanes hir o weithio gyda phorwyr ar draws y Parc Cenedlaethol ac mae'r cynlluniau pori hyn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adfer natur".

"Mae'r awdurdod yn hwyluso'r trefniant cychwynnol, ond cyfrifoldeb y perchennog yw lles yr anifeiliaid sy'n pori.

"Yn achos Comin Wern, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA), roedd yr awdurdod wedi sicrhau'r cytundeb ar gyfer y pori yn ystod misoedd yr haf ac fel rhan o'r trefniant cychwynnol hwn, gofynnwyd bod yr anifeiliaid yn cael eu symud cyn y gaeaf, er mwyn sicrhau eu lles ar dir nad oedd yn addas ar gyfer pori yn y gaeaf."

Fe ychwanegon nhw nad oedd y merlod wedi eu symud "er gwaethaf addewidion niferus gan y perchennog".

Er hyn, maen nhw'n dweud bod yr awdurdod wedi "cynorthwyo'r perchennog i symud y merlod er budd diogelwch y cyhoedd a'r risgiau a berir ar lwybr troed sy'n hygyrch i'r cyhoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Tir gwlyb yn yr ardal ble daeth Anita o hyd i'r ceffylau

Yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data, doedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddim yn medru datgelu enw perchennog y ceffylau.

Mae'r BBC yn deall fod perchennog y ceffylau byw, a gafodd eu tynnu o'r safle, yn dweud fod milfeddyg wedi cadarnhau eu bod yn iach, heb arwydd o esgeulustod.

Maen nhw'n gwadu bod yn berchennog ar y ceffylau marw.

Cadarnhaodd yr RSPCA hefyd eu rhan yn yr achos, gan ddweud nad oedd unrhyw erlyniad yn cael ei ddwyn.

Dywedodd yr elusen eu bod yn "ddiolchgar iawn i bobl sy'n rhoi gwybod i ni am amheuaeth o ddioddefaint anifeiliaid" a'u bod eisiau sicrhau pobl "y byddwn ni bob amser yn ymchwilio iddynt".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ymddiriedolaeth Ceffylau a Merlod Lluest yn dweud nad yw'r olygfa yma yn anghyffredin

Yn sgil y deunydd fideo a dderbyniodd BBC Cymru, mae Ymddiriedolaeth Ceffylau a Merlod Lluest yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Maen nhw'n dweud nad yw'r golygfeydd ar Gomin Wern yn anghyffredin.

"Mae rhai ceffylau yn cael eu hamddifadu mewn ardaloedd comin a dydy rhai perchnogion ddim yn ymweld â'u ceffylau yn rheolaidd. Dyna lle mae'r broblem," medden nhw.

'Angen i'r llywodraeth gymryd cyfrifoldeb'

"Mae angen i'r llywodraeth gymryd fwy o gyfrifoldeb dros les anifeiliaid a'r deddfau," dywedodd Dionne Schuurman.

"Mae elusennau yn aml yn gorfod codi'r slac a dyw hynny ddim yn iawn.

"Mi allen nhw fod yn gorfodi'r deddfau lles anifeiliaid yn llymach."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gorfodi rheoliadau lles anifeiliaid yn fater i awdurdodau lleol, fel y nodir yn ein Cynllun Lles Anifeiliaid ac sy'n cael ei gefnogi gan ganllawiau.

"Rydym hefyd wedi cryfhau eu rôl gorfodi drwy Swyddogion Gorfodi Awdurdodau Lleol sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru."

Pynciau cysylltiedig