Y Parchedig Goronwy Evans Llanbed wedi marw
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd Goronwy a Beti Evans i gasglu dros £1m i Blant mewn Angen dros y blynyddoedd
Bu farw'r Parchedig Goronwy Evans, Llanbed, yn 82 oed.
Roedd yn weinidog gyda'r Undodiaid yng Nghapel Brondeifi ymhlith eraill am dros 50 mlynedd cyn iddo ymddeol, ac roedd yn adnabyddus iawn am ei waith gydag elusennau.
Ers 35 mlynedd bu ef a'i wraig Beti yn hel arian yn flynyddol ar gyfer elusen Plant Mewn Angen, gan gydlynu ymdrechion ar draws Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.
Ychydig flynyddoedd yn ôl fe lwyddon nhw i groesi'r trothwy nodedig, gan gasglu dros £1m mewn rhoddion.
Yn un o hoelion wyth yr ardal, fe dderbyniodd MBE am ei waith elusennol ac yn ehangach i gymuned Llanbed.
'Nabod pawb'
Un fu'n ei nabod ers blynyddoedd lawer yw'r Parchedig Wyn Thomas, sydd bellach yn weinidog yng Nghapel Brondeifi.
Wrth roi teyrnged i Goronwy Evans dywedodd: "Roedd e'n un o'r bobl yna sydd wastad wedi bod yna.
"Roedd e'n gefnogol dros ben wrth i mi hyfforddi i fynd i'r weinidogaeth. Roedd yna gadernid yn perthyn iddo fe.
"Os oedd e'n gwybod fod rhywbeth yn 'iawn', roedd e'n benderfynol o'i neud e.
"Roedd e'n nabod pawb, ac roedd ganddo gonsyrn o'r galon am bobl... bydd colled fawr ar ei ôl."
Mae'n gadael gwraig, Beti, a'u meibion Ioan Wyn a Rhidian a'u teuluoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2017