Aelodau Llafur yn cwrdd i drafod pryderon am Vaughan Gething

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le

Mae'r BBC yn deall fod gwleidyddion Llafur Cymru wedi cynnal cyfarfod nos Lun i drafod pryderon ynglŷn â'u harweinydd newydd.

Mae Vaughan Gething wedi cael ei feirniadu wedi iddo dderbyn rhodd ariannol o £200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafodd ei ddyfarnu'n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Aelodau Llafur o'r Senedd wedi dweud eu bod am i Mr Gething ddeall lefel y pryder o fewn y blaid.

Dywedodd un ffynhonnell wrth BBC Cymru bod 14 o wleidyddion wedi cyfarfod nos Lun i drafod y mater.

Mae disgwyl i Mr Gething ddod yn brif weinidog ddydd Mercher yn dilyn ymddiswyddiad ffurfiol Mark Drakeford ddydd Mawrth.

Yn ôl un Aelod Llafur o'r Senedd, mae yna deimlad cynyddol o fewn y grŵp seneddol y dylai'r arian gael ei ddychwelyd, gyda rhai hyd yn oed yn bygwth peidio pleidleisio amdano ddydd Mercher os nad yw hynny'n digwydd.

"Fedra i ddim gweld hynny yn digwydd mewn gwirionedd, ond gyda dim ond 30 pleidlais - oni bai bod y pleidiau eraill yn atal eu pleidlais - yr oll mae'n gymryd yw i un Aelod Llafur fynd yn groes er mwyn atal y broses," meddai'r AS.

Dywedodd aelod arall "nad oes unrhyw un wedi dweud eu bod am atal eu pleidlais, ond nad oedden nhw'n hoff o weld pobl yn cymryd y canlyniad yn ganiataol cyn iddyn nhw gael atebion i'w cwestiynau".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Mr Gething ddod yn brif weinidog ddydd Mercher

Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Mr Gething drechu Jeremy Miles i fod yn arweinydd Llafur Cymru gan ennill 51.7% o'r bleidlais.

Yn gynharach ddydd Llun fe wnaeth o addo cynnal adolygiad o'r system rhoddion ariannol mewn ymgyrchoedd arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Dros y penwythnos fe wnaeth Mr Gething wrthod galwadau i dalu'r arian yn ôl i Dauson Enviromental Group.

Disgrifiad o’r llun,

David John Neal yw cyfarwyddwr cwmni Dauson Enviromental Group

David John Neal yw perchennog Dauson, a daeth i'r amlwg ei fod o wedi ei erlyn yn 2013 am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent, ac eto yn 2017 am fethu â glanhau'r gwastraff.

Mae Mr Gething wedi amddiffyn ei berthynas gyda'r sefydliad, gan wrthod yr awgrym ei fod wedi lobïo o blaid cwmni Atlantic Recycling - sydd â chysylltiadau gyda Dauson Environmental.

Fe wnaeth Mr Gething ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lacio'r cyfyngiadau ar gwmni Atlantic Recycling yn 2016, ac yn 2018, mewn llythyr pellach, dywedodd wrth swyddogion CNC nad oedd rheswm iddyn nhw oedi penderfyniad ynglŷn â thrwydded.

Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau y bydd unrhyw arian dros ben o'r ymgyrchoedd arweinyddiaeth yn cael ei roi i'r blaid.

'Dim byd o'i le'

Dywedodd Vaughan Gething ar raglen Politics Wales dros y penwythnos: "Does dim byd yn anghywir â'r hyn yr ydym wedi ei wneud.

"Wyth mlynedd yn ôl nes i ysgrifennu at CNC fel aelod o'r etholaeth, dim lobïo yw hynny - mae lobïo yn air llwythog, fel rydym yn gwybod," meddai Mr Gething.

"Fel cynrychiolydd eich etholaeth, eich swydd yw cynrychioli eich etholaeth, unigolion a busnesau.

"Dy' ni heb wneud dim byd y tu allan i'r rheolau. Does dim byd o'i le gyda'r hyn yr ydym wedi ei wneud."