Pum peth sy'n wynebu Prif Weinidog nesaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Vaughan Gething fod yn brif weinidog nesaf Cymru ar ôl iddo ennill etholiad arweinyddiaeth Llafur ddydd Sadwrn.
Roedd y bleidlais derfynol rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething yn agos iawn, gyda Gething yn fuddugol o 51.7% i 48.3%.
Ond beth fydd y prif faterion y bydd yn rhaid iddo fynd i'r afael â nhw?
Pwy fydd yn ei gabinet?
Yn gyntaf, bydd yn rhaid i Mr Gething benodi ei gabinet newydd yr wythnos hon.
Bydd yn rhaid iddo ystyried faint o'i gefnogwyr y mae'n bwriadu eu gwobrwyo a faint o griw Jeremy Miles y bydd yn eu gwahodd.
Bydd yn rhaid iddo hefyd benderfynu pa swydd y bydd yn ei chynnig i Mr Miles.
A beth am Blaid Cymru? Mae Llafur mewn cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, sy'n cynnwys pethau fel prydau ysgol am ddim, newid treth y cyngor, mesuriadau ar ail dai a diwygiad y Senedd.
Ond mae Plaid Cymru wedi bod yn feirniadol ynghylch rhoddion ariannol i ymgyrch Mr Gething ac o dan bwysau gan rai o fewn y blaid i ddod â'r cytundeb i ben - cytundeb sydd ar hyn o bryd yn dod i ben ddiwedd eleni.
Mae Llafur yn dal 30 o'r 60 sedd yn y Senedd - heb gefnogaeth Plaid, bydd yn rhaid i Mr Gething daro bargen.
Bydd materion o gyfnod ei ragflaenydd, Mark Drakeford, hefyd yn pwyso arno.
Bydd yn rhaid iddo ystyried sut mae am ddelio gyda'r ffermwyr sydd wedi bod yn protestio ynghylch cynllun ffermio cynaliadwy'r llywodraeth.
Bydd yn rhaid iddo hefyd ystyried a yw am fwrw ymlaen gyda newidiadau dadleuol i gwtogi gwyliau haf ysgolion i bum wythnos.
Y Gwasanaeth Iechyd
Mae'r GIG yn derbyn mwy na hanner cyllid Llywodraeth Cymru ac yn wynebu problemau mawr.
Er bod rhestrau aros yn lleihau'n raddol, mae dros hanner miliwn o bobl yn aros am driniaeth.
Mae ymgynghorwyr meddygol a meddygon iau hefyd yn gweithredu'n ddiwydiannol dros dâl ac amodau gwaith.
Mae Mr Gething wedi cydnabod bod angen mwy o fuddsoddiad i'r GIG, ond nid yw wedi ymrwymo i godi cyflogau meddygon.
Mae'n bosib hefyd y bydd yn penodi Gweinidog Iechyd newydd.
Fe gafodd y gweinidog presennol, Eluned Morgan, ei holi fis diwethaf a fyddai'n parhau yn y rôl, atebodd: "Mae'n swydd anodd ... gawn ni weld beth sy'n digwydd."
Toriadau
Mae arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn dynn.
Dywed Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n cael digon gan lywodraeth San Steffan a bod chwyddiant yn erydu'r hyn sydd yn cael ei dderbyn.
Mae'r Ceidwadwyr o'r farn bod blaenoriaethau gwario'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn anghywir.
Beth bynnag yw'r farn wleidyddol, mae'r cyhoedd yn teimlo'r wasgfa gyda treth y cyngor yn cynyddu ar yr un pryd ag y mae gwasanaethau casglu biniau'n lleihau.
Hyd yn oed petai Llafur yn dod i rym yn San Steffan, mae'r arweinydd, Syr Keir Starmer, wedi rhybuddio na fydd mwy o arian yn cael ei roi.
Trafnidiaeth
Mae Mr Gething wedi nodi'n glir ei fod yn gweld prosiect rheilffordd HS2 fel un i Loegr yn unig.
Ei her fydd ceisio annog Llywodraeth y DU i roi cyfran Cymru o'r prosiect iddi.
Er bod Mr Gething wedi diystyru ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, fe fydd yna adolygiad o'r arweiniad i gynghorau sir o ran gweithredu'r terfynau cyflymder 20mya.
Mae Mr Gething eisoes wedi dweud fod angen i Lywodraeth Cymru "wrando nid darlithio".
Rhoddion ariannol
Fe gafwyd ymgyrch gymharol dawel i benodi arweinydd newydd Llafur Cymru nes iddi ddod i'r amlwg bod ymgyrch Mr Gething wedi derbyn rhodd ariannol o £200,000 - swm sylweddol i wleidyddiaeth yng Nghymru - gan gwmni dyn sydd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae'r un cwmni angen caniatâd Llywodraeth Cymru i adeiladu fferm solar ar wastadeddau Gwent.
Dywed Mr Gething bod y rhoddion wedi eu datgan gan ddilyn y rheolau, ac ni fydd AS etholaeth y cwmni ynghlwm â phenderfyniad y fferm solar.
Ond mae 'na dal gwestiwn ynghylch a oedd derbyn yr arian yn beth cywir yn y lle cyntaf.
Mae'r rhoddion yma wedi creu aflonyddwch o fewn y Blaid Lafur, tra bod gan y gwrthbleidiau rywbeth i'w daflu at Mr Gething.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Mawrth