Vaughan Gething yn gwrthod dychwelyd rhodd o £200,000

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Matthew Harwood/Getty Images

Mae arweinydd newydd Llafur Cymru wedi gwrthod dychwelyd rhodd ariannol o £200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

"Does dim byd yn anghywir â'r hyn yr ydym wedi ei wneud," dywedodd Vaughan Gething ar raglen Politics Wales.

Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Mr Gething drechu Jeremy Miles i fod yn arweinydd Llafur Cymru gan ennill 51.7% o'r bleidlais.

Yr wythnos nesaf, mae disgwyl iddo ddod yn brif weinidog nesaf Cymru - fe fydd y dyn du cyntaf i arwain y wlad.

Yn ôl yn 2016, fe wnaeth Mr Gething ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) leihau cyfyngiadau Atlantic Recycling, cwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn sydd wedi ei ganfod yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

Fe wnaeth Atlantic Recyclng roi £200,000 i ymgyrch lwyddiannus Mr Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd.

"Wyth mlynedd yn ôl nes i ysgrifennu at CNC fel aelod o'r etholaeth, dim lobïo yw hwn - mae lobïo yn air llwythog, fel rydym yn gwybod," meddai Mr Gething.

"Fel cynrychiolydd eich etholaeth, eich swydd yw cynrychioli eich etholaeth, unigolion a busnesau."

Ffynhonnell y llun, Mattew Harwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Miles yn cyfarch Gething wedi'r canlyniad

Wrth siarad ar y rhaglen, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, os yw rheolau wedi eu torri a'i peidio, "dyw e ddim yn teimlo'n iawn" i gadw'r arian a'r "unig ffordd o wneud yn iawn am hyn" yw dychwelyd y rhodd.

Mae Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd o'r farn y byddai'n "gall" pe bai Mr Gething yn dychwelyd yr arian.

Dywedodd Mr Gething ei fod "ond wedi holi" sut y gallai'r cwmni gydymffurfio â thargedau CNC fel y gall "swyddi gael eu cadw o fewn y busnes".

Fe ddaeth i'r amlwg yn ystod ei ymgyrch fod yr un cwmni wedi cyflwyno cais i sefydlu fferm solar ar wastadeddau Gwent. Bydd yn rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda hyn.

Wrth i Mr Gething gael ei holi am y pwnc yma, dywedodd: "Mae hwn braidd yn rhwystredig, oherwydd mae pob newyddiadurwr sydd o ddifri yn gwybod nad oes gennych hawl i wneud penderfyniadau fel gweinidog o fewn eich etholaeth.

"Mae'r ffordd y mae'r stori wedi ei chyflwyno, gyda'r awgrym fod rhywbeth yn mynd ymlaen - mae'n amhosib i mi wneud hynny".

Ffynhonnell y llun, Mattew Harwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gething gyda'i deulu ar ôl y canlyniad

Fe ychwanegodd arweinydd y blaid nad oedd yn cydnabod yr awgrym fod dicter o fewn y blaid ynghylch y mater.

Pan holwyd a fyddai'n dychwelyd y rhodd ariannol, dywedodd: "Na."

"Dy' ni heb wneud dim byd y tu allan i'r rheolau. Does dim byd o'i le gyda'r hyn yr ydym wedi gwneud."

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn cyflwyno tystiolaeth yn Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig

Wrth iddo gyflwyno tystiolaeth i Ymchwiliad Covid y DU yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr Gething a oedd yn Weinidog Iechyd yn ystod y pandemig: "O wybod yr hyn rydym yn gwybod nawr, byddem wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ar sawl mater."

Dywedodd nad oedd gan Lywodraeth Cymru y pŵer cyfreithiol i ohirio'r gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban yn y Chwe Gwlad, a gafodd ei gohirio gydag ond 24 awr o rybudd yn nyddiau cynnar y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Un o bynciau llosg mwyaf cynllun ffermio cynaliadwy y Llywodraeth yw'r ddadl dros blannu coed a sicrhau cynefinoedd bywyd gwyllt ar dir fferm

Ni wnaeth Mr Gething fynegi unrhyw newidiadau yr oedd yn bwriadu eu gwneud i'r cynllun ffermio cynaliadwy dadleuol, ond dywedodd y bydd canlyniad yr ymgynghoriad gyda'r ffermwyr yn cael ei gymryd o ddifri.

Mae'r cynllun, sy'n gofyn i ffermwyr dyfu coed ar 10% o'u tir, a chadw 10% arall ar gyfer bywyd gwyllt wedi esgor ar ymgyrchoedd ledled Cymru.

"Mae angen edrych ar yr hyn sy'n deillio o'r ymgynghoriad a'i gymryd o ddifri, sef yr hyn mae pobl yn ei ddisgwyl," dywedodd.

Dywedodd fod yr ymgynghoriad yn "ddilys" a bydd gan y Llywodraeth "ddiddordeb" yn ei ganfyddiadau.