Dyn yn euog o lofruddio wedi iddo drywanu dyn yn ei wddf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a drywanodd dyn arall yn ei wddf gyda chyllell bysgota wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Roedd James Allan Smith, 36 o Ffordd Nelson, Llanelli, wedi gwadu llofruddio Ashley Sarsero, 26 oed, yn ardal Maestir o Felinfoel, Llanelli fis Medi'r llynedd.
Fe safodd ei brawf yn Llys y Goron Abertawe ochr yn ochr â Steven George Morgan, 36 oed o Ffordd yr Orsaf, Llanelli, oedd yn gwadu cynorthwyo troseddwr.
Ar ddiwedd achos a barodd bythefnos, fe wnaeth y rheithgor gael Smith yn euog o fwyafrif.
Clywodd y llys fod Smith wedi trywanu Mr Sarsero y tu allan i'w gartref "yn fwriadol a heb unrhyw gyfiawnhad".
Dywedodd yr erlynydd Michael Jones KC fod y ddau wedi ffraeo yn oriau mân 10 Medi cyn i'r tri dyn fynd allan ac fe dynnodd Smith gyllell o'i boced.
Fe drywanodd Mr Sarsero yn ei wddf cyn rhedeg i ffwrdd. Clywodd y rheithgor fod Morgan wedi dweud wrth Smith am "redeg... nawr" cyn iddo ffonio am ambiwlans.
Cafodd Morgan ei arestio yn y fan a'r lle, ac fe aeth Smith i orsaf heddlu o'i wirfodd y diwrnod canlynol.
Clywodd y llys hefyd fod Smith wedi prynu cyllell oedd yn cydfynd â'r disgrifiad o'r gyllell a ddefnyddiwyd y diwrnod cyn y trywanu.
Wedi ei farwolaeth, fe ddisgrifiodd teulu Mr Sarsero ef fel "bachgen prydferth, gwerthfawr oedd yn goleuo unrhyw ystafell".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023