Cynnydd mawr yn nifer yr achosion o'r pâs yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer yr achosion o'r pâs yng Nghymru - y ffigwr uchaf mewn 11 mlynedd.
Fe gafodd 122 o achosion eu cofnodi gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn yr wythnos hyd at 18 Mawrth.
Dyma'r ffigwr wythnosol uchaf ers diwedd 2012 ac mae'n dilyn pryderon bod achosion ar gynnydd ers dechrau'r flwyddyn.
Haint ar yr ysgyfaint neu'r tiwbiau anadlu yw'r pâs - whooping cough - ac mae'n gyflwr eithriadol o heintus.
Mae'n bosib i'w ddal trwy anadlu dafnau bach yn yr aer wedi i rywun arall besychu a thisian.
Yn y chwe wythnos ddiweddaraf, mae achosion wedi eu cofnodi ymhob sir yng Nghymru oni bai am un, gyda'r niferoedd uchaf yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Gwynedd, Powys, Abertawe a Bro Morgannwg.
Ers dechrau 2024, mae mwy o achosion wedi eu cofnodi na chyfanswm y pum mlynedd flaenorol.
Mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi bod yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i gael eu brechu.
"Roedd hysbysiadau o'r pâs yng Nghymru yn gostwng ond maen nhw wedi codi eto wythnos yma, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n monitro'r sefyllfa" dywedodd Dr Christopher Williams o ICC.
"Mae yna donnau o fwy o heintiadau'r pâs bob tair neu bedair blynedd, ac yn dilyn cylchrediad llai yn 2020-2022, mae'r hysbysiadau presennol ar lefelau nad ydym wedi eu gweld ers 2012 a 2015."
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 95% o fabanod a 70% o ferched beichiog wedi cael eu brechu.
Mae achosion hefyd wedi cynyddu'n ddiweddar yn rhannau o Loegr.
Beth yw'r pâs?
Gair arall amdano yw pertwsis ac mae'n cael ei achosi gan fath o facteria sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu;
Gallai ymddangos fel annwyd i ddechrau ond mae'n arwain at byliau hir o beswch;
Fe allai'r peswch bara nifer o wythnosau;
Dylai cleifion orffwys ac yfed digon o ddŵr, a gallan nhw gael gwrthfiotigau;
Roedd tua hanner yr achosion yn 2023 mewn plant dan 19 oed, ond gallai effeithio pobl o bob oed;
Mae'r pâs yn heintus ac yn lledaenu'n hawdd iawn.
Dywedodd Dr Williams bod brechiad y pâs yn rhan o'r brechiad '6-yn-1' sy'n cael ei roi i fabanod pan maen nhw'n wyth, 12 a 16 wythnos oed, ac maen nhw'n cael brechiad atgyfnerthu pan maen nhw'n tua tair blwydd a phedwar mis oed cyn dechrau yn yr ysgol.
"Ers 2013 mae merched beichiog wedi cael cynnig brechiad pertwsis rhwng wythnosau 16-32 o'r beichiogrwydd, i warchod babanod newydd-anedig cyn iddyn nhw gael y brechiad 6-yn-1," ychwanegodd.
"Byddwn ni'n annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod yn derbyn cynnig o frechiad pan ddaw, neu ofyn i'w meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydyn nhw'n credu na chawson nhw gynnig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020