Annog plant bach a menywod i gael eu brechu rhag y pâs
- Cyhoeddwyd
Mae'r achosion o'r pâs - neu'r 'whooping-cough' - wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru yn wythnosau cyntaf 2024.
Yn barod eleni, mae 135 achos o'r clefyd yng Nghymru, tra mai ond 200 o achosion welwyd yn 2023 i gyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu wedi cynnydd yn nifer yr achosion.
Mae nifer y menywod sydd wedi'u brechu yn erbyn yr haint wedi disgyn.
Mae galw hefyd ar fenywod beichiog i gael eu brechu i warchod y babanod yn y groth - fe allai'r pâs effeithio'n ddifrifol ar fabanod o dan flwydd oed.
Sawl achos sydd?
Cofnodwyd 53 achos yn yr wythnos ddiwethaf: 12 yn Sir Benfro, wyth yn sir Y Fflint a chwech yn Rhondda Cynon Taf, gydag achosion eraill ar draws 12 cyngor arall.
Dim ond siroedd Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Mynwy sydd heb gael achos yn y chwe wythnos diwethaf.
Mae'r pâs yn tueddu i frigo bob tair i bedair blynedd, a'r tro diwethaf oedd cyn Covid yn 2019.
Cyn hynny, roedd niferoedd uchel yn 2012 gyda 180 o achosion yr wythnos ar gyfartaledd yn yr wythnosau'n arwain at y Nadolig y flwyddyn honno.
Yn ôl Dr Christopher Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r pâs yn "hynod heintus".
"Babanod dan chwe mis oed sydd yn fwyaf tebygol o ddioddef," meddai. "Mae'n gallu bod yn hynod ddifrifol, ac arwain at niwmonia a niwed parhaol i'r ymenydd. Gallai babanod ifanc farw o'r haint."
Mae'n pwysleisio'r angen i fenywod beichiog gael eu brechu am fod y brechlyn yn gwarchod y baban yn y groth.
"Mae'n gwarchod y babi am wythnosau cyntaf ei fywyd tan y bydd yn cael ei bigiadau cyntaf yn ddeufis oed," meddai.
"Mae hefyd yn eich atal chi rhag cael y pâs a gostwng y risg ohonoch yn pasio'r haint i'r babi.
"Fe fyddem ni'n annog pob menyw feichiog a rhieni i fabanod a phlant bach i sicrhau'ch bod yn derbyn y cynnig o frechiad pan y daw."
Beth yw'r pâs?
Gair arall amdano yw pertwsis ac mae'n cael ei achosi gan fath o facteria sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu;
Gallai ymddangos fel annwyd i ddechrau ond mae'n arwain at byliau hir o beswch;
Fe allai'r peswch bara nifer o wythnosau;
Dylai cleifion orffwys ac yfed digon o ddŵr, a gallan nhw gael gwrthfiotegau;
Roedd tua hanner yr achosion yn 2023 mewn plant dan 19 oed, ond gallai effeithio pobl o bob oed;
Mae'r pâs yn heintus ac yn lledaenu'n hawdd iawn.
Hyd yma, mae nifer y feirysau eraill wedi bod yn weddol gyson, er bod nifer y cleifion sy'n yr ysbyty gyda ffliw neu Covid wedi cynyddu rhywfaint ers dechrau Rhagfyr.
Cyrhaeddodd haint anadlu RSV frig ymysg plant fis Tachwedd, gydag achosion dwys yn y gymuned a nifer uchel o gleifion ysbyty hefyd, ond mae'r niferoedd bellach yn gostwng.
Dangosodd profion sampl o gannoedd o gleifion ysbyty wythnosol bod 8% yn dioddef o'r ffliw, a 12% wedi dal Covid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020