Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n cefnogi Page gyda'r tîm 'ar y llwybr cywir'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru "ar y llwybr cywir" yn ôl y rheolwr Rob Page, wrth i'w dîm fethu a chyrraedd Euro 2024 yn dilyn colled i Wlad Pwyl ar giciau o'r smotyn.
Roedd hi'n noson greulon i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.
Dywedodd Page ei bod hi'n ffordd "erchyll" i'w chwaraewyr golli'r gêm, ond ei fod yn falch o'r tîm ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.
Ddydd Mercher, dywedodd uwch-swyddog Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) y byddai Page yn parhau yn ei swydd er y golled.
Fe fydd adolygiad o'r ymgyrch ddiwethaf, ond dywedodd Llywydd CBDC, Steve Williams y byddai Page yn parhau "yn unol â'i gytundeb".
Dywedodd Page: "Rydyn ni'n dîm sy'n trawsnewid, ac wrth i ni newid, dy'n ni un gic i ffwrdd o gyrraedd yr Euros."
Ychwanegodd mai "adeiladu ar beth dy'n ni wedi dechrau" oedd ei nod.
Mae'r ymgyrch, oedd yn cynnwys buddugoliaeth dros Croatia a cholled gartref i Armenia, wedi codi cwestiynau am y rheolwr ymysg sylwebyddion a chefnogwyr.
Ond mynnodd y rheolwr bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn "gweld y siwrne dy'n ni arno".
"Mewn 12 mis dy'n ni wedi mynd o ymddeoliad chwaraewyr hyn i gyflwyno chwaraewyr iau a bod un gic i ffwrdd o gyrraedd.
"Dwi'n meddwl bod nhw'n gweld y gwaith dy'n ni'n ei wneud, a'r cefnogwyr hefyd."
Page yw'r unig reolwr i arwain Cymru mewn dau o brif gystadlaethau'r byd, ac mae ei gytundeb yn parhau nes 2026.
"Dwi'n gwybod bod gen i grŵp da o chwaraewyr, staff gwych, a dy'n ni ar y llwybr cywir.
"Mae 'na chwaraewyr iau i ddod i mewn hefyd, felly dyna fy nod nesaf."
'Page wedi bod yn anlwcus'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher roedd y sylwebydd Nic Parry o'r farn y bydd Rob Page yn aros yn ei swydd wrth i'r tîm feddwl am ymgyrch Cwpan y Byd.
"Oes 'na welliant wedi bod o dano fo? Oes. Ydy'r chwaraewyr yn ei gefnogi? Ydyn. Ac felly oes 'na rywun allwch chi gael yn ei le fo? Nagoes. Felly dwi'n credu y bydd o."
Wrth drafod y gêm, dywedodd fod Rob Page wedi bod yn "eithaf anlwcus, pob dim a allai fod wedi mynd o'i le, aeth o'i le".
Dywedodd fod y ddau dîm yn agos, a'i bod hi'n "weddol amlwg yn gynnar mai falle un gôl fyddai'n gwahaniaethu'r ddau dîm".
"Ond gallwch chi ddim fod mor feirniadol pan da chi'n colli gem mor agos â honna".
I rai o gefnogwyr ifanc Cymru yng Ngwersyll Chwaraeon Llangrannog ddydd Mercher, roedd 'na amheuon pan aeth y gêm i giciau o'r smotyn.
Dywedodd Efan ei fod yn fodlon gyda dewis Rob Page ar gyfer y tîm, ond yn siomedig gyda'r canlyniad.
"O'dd y tîm yn good choice. Y gêm cyn 'ny odd Kieffer Moore ddim yn dachre, ond o'dd e'n dachre tro ma, so o'n i'n siŵr o'n nhw moyn yr headers cynnar 'na i fynd mewn, ond da'th e ddim. So bach yn disappointed."
Ychwanegodd: "O'dd 'da fi bach o gut feeling bydde fe ddim yn troi mas yn dda i ni, achos ma' Poland gyda cwpl o experienced players sydd wedi bod yn neud y penalty shoot-outs 'ma o'r blaen a ma' Cymru heb gal hwn ers blynydde."
"Gutted" oedd ymateb Ryan: "Sai'n credu o'dd Cymru wedi whare'n dda iawn - gallen nhw fod wedi 'neud mwy yn ymosodol."
Dywedodd Bleddyn bod y ddau dîm wedi "cystadlu'n dda", ond "o'dd rhaid i ni orffen chances ni".
'Fi'n teimlo dros y bois'
Gyda 33,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd calonnau a gobeithion nifer o'r cefnogwyr wedi eu chwalu yn dilyn y gêm.
Wrth adael y stadiwm, dywedodd Gwennan Jones o Gaerfyrddin ei bod yn "siomedig ofnadwy, roedd hwnna'n real tor-calon ar ddiwedd y gêm, fi'n teimlo dros y bois fyd".
Dywedodd ei mab, Osian ei fod yn "siomedig ond chwaraeo'n ni'n dda, ond teimlo'n terrible i Dan James ar y diwedd".
Dywedodd Matthew Davies o Rydaman ei fod yn "teimlo'n ofnadwy".
"Dwi a fy ffrindiau wedi mynd i bob gêm. Ry' ni wedi dod mor bell ac yn amlwg heb cweit neud hi ar y diwedd."
"Dy' ni erioed wedi cael y profiad o fynd i giciau o'r smotyn. Mae'n dîm ifanc felly mae'n anodd."
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Manon Evans oedd yn y stadiwm yn gwylio'r gêm nos Fawrth ei fod yn "eithaf stressful" i wylio'r ciciau o'r smotyn.
"Oedd e'n un anodd i watcho i fod yn onest, dim yn gêm rhy gyffrous, dim lot yn digwydd."
A hithau gyda chysylltiadau teuluol allan yn Yr Almaen, roedd Manon wedi gobeithio am wyliau haf yno eleni.
"Ro ni'n really gobeithio y bysen ni'n cyrraedd Yr Almaen... byse fe wedi bod yn berffaith... ond nawn ni weld, falle a'i allan ta beth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2024