Ciciau o'r smotyn yn chwalu breuddwyd Euro 2024 Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddiweddglo torcalonnus i ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2024 wrth i Wlad Pwyl eu trechu ar giciau o'r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe gollodd Cymru yn y ffordd fwyaf creulon - roedd y gêm yn ddi-sgôr ar ddiwedd amser ychwanegol ond y gwrthwynebwyr sy'n mynd i'r Almaen yn yr haf wedi iddi orffen yn 5-4.
Dan James oedd yr olaf i gymryd ei gic ond cafodd ei ymdrech ei arbed gan y golwr Wojciech Szczesny.
Methiant felly oedd ymgais tîm Robert Page i gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol.
Gyda gymaint yn y fantol, fe wnaeth y ddau dîm ddechrau'n bwyllog rhag gwneud camgymeriad neu ildio gôl fuan.
Y Pwyliaid gafodd cyfleoedd addawol cyntaf y noson, ac o chwarae gosod daeth cyfle gwirioneddol cyntaf Cymru - peniad Ben Davies o gic gornel Harry Wilson a aeth modfeddi uwchben y trawst.
Gyda'r gwrthwynebwyr yn hawlio ychydig yn fwy o'r meddiant, roedd angen i Gymru godi gêr i leihau'r gofod bosib yng nghanol y cae ar gyfer chwaraewr o safon ymosodwr Barcelona, Robert Lewandowski.
Roedd yna ambell hanner cyfle, gan gynnwys pas i'r cwrt yn hytrach na chroesiad gan Wilson o gic rydd a aeth yn rhy bell i neb mewn coch allu cyrraedd y bêl.
Gyda 45 munud ar y cloc, roedd yna gyfle am un ymosodiad arall - a bloedd o orfoledd pan gysylltodd croesiad Connor Roberts â phen Kieffer Moore yn gyntaf ac yna pen y capten ac i mewn i'r rhwyd.
Ond yn anffodus, ar ôl edrych ar y luniau teledu, y dyfarniad oedd bod yna gamsefyll a doedd gôl Ben Davies ddim yn cyfri.
Gyda'r ystadegau ac eithrio'r sgôr yn dangos pa mor gyfartal oedd y ddau dîm yn yr hanner cyntaf, roedd yna hyd yn oed fwy o densiwn yn y stadiwm ar ddechrau'r ail hanner.
Roedd yna gic rydd fuan i Gymru ac fe gyrhaeddodd Moore yn y cwrt cosbi. Dyma oedd cyfle gorau'r ymosodwr ers dechrau'r gêm ac roedd angen arbediad gwych gan y golwr Wojciech Szczesny i atal y bêl gerfydd blaen ei fysedd.
Fe welodd Jordan James gerdyn melyn wedi ei drydedd fân drosedd o'r gêm, ac fe ildiodd Cymru ambell i gic rydd ddiangen i'r Pwyliaid, er na ddaeth dim ohonyn nhw.
Ond yna roedd yna beryg i bethau ddechrau mynd yn flêr, ac roedd angen peniad da gan Joe Rodon i atal croesiad addawol Przemyslaw Frankowski wrth i'w Pwyliaid edrych yn fwyfwy bygythiol.
O fewn y chwarter awr olaf o'r 90 roedd yna ymdrechion ar y naill gôl a'r llall. Cymru oedd yn ennill y frwydr yn yr awyr yng nghwrt cosbi'r gwrthwynebwyr ond roedd angen gwaith amddiffynnol cadarn ben arall y maes hefyd, - yn arbennig gan Davies ac Ethan Ampadu.
Roedd yna siom wrth i Connor Roberts orfod adael y maes gydag anaf, a chroeso pan ddaeth David Brooks yn ei le.
Serch popeth, a phedwar munud ar ben y 90, roedd hi'n dal yn ddi-sgôr ar ddiwedd yr ail hanner. Am y tro cyntaf erioed roedd rhaid i dîm dynion Cymru wynebu amser ychwanegol mewn gêm ail gyfle i gyrraedd pencampwriaeth o bwys.
Aeth cic rydd Wilson o safle addawol yn syth i fur y Pwyliaid. O'r gwrthymosodiad dilynol fe gafodd y gwrthwynebwyr un o'u cyfleoedd gorau i sgorio er taw aflwyddiannus oedd ergydiad campus Jakub Piotrowski.
Ildiodd y Pwyliaid y bêl i Moore ger eu gôl eu hunain ond ag yntau ar ben ei hun ynghanol sawl amddiffynnwr a'r bêl wrth ei draed roedd ei ergyd at y gôl yn un wan.
Wedi'r egwyl roedd y pwysau'n drymach nag erioed i osgoi gwneud camgymeriad a allai costio mor ddrud, waeth pa mor flinedig y coesau.
Fe gafodd yr eilydd David Brooks ei eilyddio ei hun, gyda Nathan Broadhead yn llenwi'r bwlch.
Wrth i'r cloc tician, chwaraewyr Gwlad Pwyl oedd yn edrych yn gryfach yn gorfforol, a bu'n rhaid i Gymru orffen y gêm gyda 10 dyn wedi i Chris Mepham weld ail gerdyn melyn.
Ciciau o'r smotyn amdani felly, ac wrth i'r timau baratoi fe ganodd y cefnogwyr cartref yr anthem genedlaethol gydag angerdd yn y gobaith o ysbrydoli eu tîm.
Y Pwyliaid wnaeth gicio gyntaf ac fe rwydodd Lewandowski gydag ymdrech beiddgar, ond fe sgoriodd capten Cymru, Ben Davies yn hawdd mewn ymateb.
Sgoriodd Sebastian Szymanski gyda chwip o ergyd ac aeth cic Kieffer Moore i mewn hefyd, er i'r bêl daro'r postyn ar ei ffordd i mewn.
Roedd trydydd ciciau'r ddau dîm hefyd yn rhai cywir - gan Przemyslaw Frankowski a Harry Wilson - ac roedd hi'n 4-4 wedi goliau Nicola Zalewski a Neco Williams.
Sgoriodd Krzystof Piatek hefyd gan roi pwysau aruthrol ar ysgwyddau Dan James. Yn anffodus, fe gafodd ei gic ei harbed gan Wojciech Szczesny, gan dorri calonnau cefnogwyr Cymru a phawb sydd ynghlwm â'r garfan.
Gwlad Pwyl felly fydd yn chwarae yn grŵp D yn Euro 2024 gyda Ffrainc, Yr Iseldiroedd ac Awstria.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2024