Ceryddu dau wleidydd dros sylwadau yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Dirprwy Lywydd Senedd Cymru wedi ysgrifennu at ddau Aelod o'r Senedd i feirniadu eu hymddygiad yn y Siambr yr wythnos diwethaf.
Fe wnaeth Lee Waters, oedd yn ddirprwy weinidog trafnidiaeth ar y pryd, a llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar, wrthdaro ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Waters fod Ms Asghar yn ceisio annog "casineb" tuag at wleidyddion. Fe wnaeth Ms Asghar gyhuddo Mr Waters o fod yn "ffroen-uchel".
Yn ôl Dirprwy Lywydd y Senedd, David Rees, wnaeth y ffrae ddim "adlewyrchu'n dda" ar y sefydliad.
Yn ystod y ddadl dywedodd Mr Rees wrth y gwleidyddion y dylai ASau sicrhau bod eu cyfraniadau yn "barchus".
'Diangen o bersonol'
Mr Rees oruchwyliodd gwaith y Senedd yn absenoldeb y Llywydd Elin Jones yr wythnos diwethaf.
Ers hynny mae Mr Rees wedi ysgrifennu at y ddau aelod, ac mae BBC Cymru wedi gweld copi o'r llythyr anfonwyd at Ms Asghar drannoeth y ddadl.
Yn y llythyr, mae'n dweud na wnaeth y gwrthdaro rhwng y ddau "adlewyrchu'n dda ar y Senedd fel sefydliad nac ar yr un ohonoch chi fel Aelodau".
"Rwy'n llwyr gefnogi rôl llefarwyr wrth graffu'n gadarn ar Weinidogion Cymreig ac ar Lywodraeth Cymru," ysgrifennodd.
"Fodd bynnag, rwy'n ystyried bod tôn eich sylwadau ar yr achlysur hwn, o'r cychwyn, yn ddiangen o bersonol yn eu natur ac wedi eu cyfeirio tuag at y Dirprwy Weinidog fel unigolyn, yn hytrach na sylwedd polisi Llywodraeth Cymru mewn meysydd y mae e'n gyfrifol amdanynt."
Ers hynny mae Ms Asghar ei hun wedi ysgrifennu at Mr Rees a'r Llywydd, yn dweud bod Mr Waters wedi "croesi llinell" yn ystod y drafodaeth.
Lee Waters oedd bennaf gyfrifol am gyflwyno'r polisi 20mya dadleuol yng Nghymru.
Gadawodd y llywodraeth ddydd Iau ar ôl i brif weinidog newydd Cymru benodi ei gabinet.
Tra'n ddirprwy weinidog fe wnaeth Mr Waters wrthdaro'n gyson gyda Ms Asghar.
Yn 2022 ymddiheurodd iddi ar ôl ei chyhuddo o wneud sylwadau "hysterig".