Cwmni roddodd arian i'r prif weinidog gerbron llys
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni a roddodd filoedd o bunnoedd tuag at ymgyrch Vaughan Gething yn etholiad arweinydd Llafur Cymru yn mynd gerbron llys i wynebu cyhuddiadau amgylcheddol.
Mae Atlantic Recycling, sy'n rhan o gwmni a roddodd yr arian i Brif Weinidog newydd Cymru, yn wynebu dau gyhuddiad o fethu cydymffurfio gydag amodau trwydded amgylcheddol.
Bydd gwrandawiad i glywed y ffeithiau - sy'n cael ei adnabod fel gwrandawiad Newton - yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 16 Rhagfyr.
Mae Atlantic Recycling yn rhan o'r Dauson Environmental Group, a roddodd £200,000 i ymgyrch lwyddiannus Mr Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd.
Mae datganiadau'r ddau ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw yn dangos fod ymgyrch Mr Gething wedi codi o leiaf £254,600, tra bod ei wrthwynebydd Jeremy Miles wedi codi o leiaf £58,800.
Mae'r prif weinidog wedi gwrthod ceisiadau gan wrthwynebwyr i ad-dalu'r arian, ond mae'n dweud y bydd ei blaid yn cynnal adolygiad o ariannu ymgyrchoedd.
Tra ar ymweliad â Chymru yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd arweinydd Llafur yn San Steffan, Syr Keir Starmer ei fod yn "gwneud synnwyr" i Lafur Cymru adolygu rheolau ynghylch ariannu ymgyrchoedd.
Fe ychwanegodd: "Mae'r prif weinidog wedi esbonio ei weithredoedd. Nid yw wedi torri unrhyw reolau a dyna ddiwedd ar y ddadl honno."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024