Canfod corff wrth chwilio am ddyn ar goll ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Ieuan HarriesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ieuan Harries yn 55 oed ac yn dod o Niwbwrch

Mae'r heddlu'n dweud bod corff wedi cael ei ganfod wrth iddyn nhw chwilio am ddyn oedd ar goll o Ynys Môn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod corff wedi cael ei ddarganfod brynhawn Mercher, wrth iddyn nhw chwilio am Ieuan Harries.

Roedd Mr Harries yn 55 oed ac yn dod o Niwbwrch.

Mae teulu Mr Harries wedi cael gwybod, ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Ychwanegodd yr heddlu bod y crwner wedi cael ei hysbysu hefyd.

Pynciau cysylltiedig