Pwy yw Rhian Wilkinson?
- Cyhoeddwyd
Mae merched Cymru'n dechrau ei hymgyrch i gyrraedd Euro 2025 mis yma, a hynny gyda rheolwr newydd wrth y llyw.
Cafodd Rhian Wilkinson ei henwi fel rheolwr y tîm cenedlaethol ar ddiwedd Chwefror. Mae hi'n olynu Gemma Grainger, a adawodd ym mis Ionawr i gymryd yr awenau fel rheolwr newydd Norwy.
Ond pwy yw Rhian Wilkinson? Dyma 'chydig o'i hanes...
Magwraeth
Cafodd Wilkinson ei geni yn Pointe-Claire, Quebec, ar 12 Mai, 1982. Roedd ei thad, Keith Wilkinson, yn gyfarwyddwr ar dîm rygbi cenedlaethol Canada, a bu farw yn 2022. Ond fe ddaw mam Rhian, Shân Wilkinson, o Gymru.
Yn 1990 fe symudodd Rhian i Gymru gyda'i theulu am flwyddyn, ac aeth i Ysgol Gynradd y Bont-faen.
Pan gafodd Wilkinson y swydd gyda Chymru dywedodd: "Mae fy mam yn Gymraes, ac fe 'nes i dreulio rhan o fy mhlentyndod yn ne Cymru, felly rwy'n gyffrous i ddod i 'nabod diwylliant y wlad a chysylltu gyda fy ngwreiddiau ymhellach."
Aeth hi i'r ysgol uwchradd ym Montreal, ble roedd hi'n rhan o dîm pêl-droed ddaeth yn ail yn y bencampwriaeth genedlaethol, ac yna fe wnaeth hi ragori gyda'i thîm ym Mhrifysgol Tennessee.
Chwarae'n broffesiynol
Am ddwy flynedd gyntaf ei gyrfa broffesiynol chwaraeodd Wilkinson dros dîm Ottawa Fury, cyn symud i LSK Kvinner FK yn Norwy (Team Strømmen oedd enw'r clwb ar y pryd).
Roedd Wilkinson gyda'r Norwyiaid am saith tymor, gyda chyfnodau ar fenthyg gyda Western Mass Pioneers a Surrey United.
Gorffenodd ei gyrfa gyda thymor yr un â'r Boston Breakers, Y Laval Comets a'r Portland Thorns FC.
Gyrfa rhyngwladol
Byddai Wilkinson wedi bod yn gymwys i chwarae dros Gymru wrth gwrs, a Lloegr gan fod ei thad wedi ei eni yno, ond dros Ganada y chwaraeodd yn rhyngwladol.
Rhwng 2003 a 2017 cafodd yr amddiffynwraig 183 o gapiau rhyngwladol, gan sgorio ar saith achlysur.
Gyda thîm cenedlaethol Canada enillodd Wilkinson y Gemau Pan-Americanaidd yn 2011, ac hefyd medal efydd ddwywaith yn y Gemau Olympaidd yn 2012 a 2016.
Rheoli
Fe wnaeth Wilkinson hyfforddi timau dan-17 a dan-20 Canada, ac aeth ymlaen i fod yn hyfforddwr cynorthwyol i Kenneth Heiner-Moller gyda'r tîm cyntaf.
Roedd hi hefyd yn hyfforddwr cynorthwyol o dan Hege Riise gyda thîm merched Lloegr, y Lionesses.
Fe aeth Riise a Wilkinson yn eu blaenau i arwain tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn 2021, lle llwyddon nhw i gyrraedd rownd yr wyth olaf cyn colli'n erbyn Awstralia.
Yr unig glwb mae Wilkinson wedi ei reoli hyd yma yw'r Portland Thorns FC yn yr NWSL (National Women's Soccer League).
Enillodd y tîm Bencampwriaeth yr NWSL yn 2022, gan guro Kansas City Current 2-0 yn y rownd derfynol.
Ond fe adawodd Wilkinson y swydd yn dilyn honiadau ei bod mewn perthynas gyda un o'r chwaraewyr. Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedi i chwaraewyr Portland anfon llythyr at gomisiynydd yr NWSL, Jessica Berman.
Wedi ymchwiliad gan yr NWSL a'r NWSLPA (National Women's Soccer League Player Association) cafodd Wilkinson ei chlirio o unrhyw gamymddwyn. Ond fe dywedodd ei bod wedi colli ei hawdurdod dros y garfan ac fe benderfynodd ymddiswyddo ym mis Rhagfyr 2022.
Wedi gyrfa arbennig yn chwarae a rheoli yn ei gwlad, cafodd Wilkinson ei hychwanegu i Oriel Anfarwolion Pêl-droed Canada yn 2022.
Aml-dalentog
Roedd Wilkinson yn rhagori mewn chwaraeon eraill yn ei harddegau, yn enwedig hoci iâ a rygbi.
Ond nid chwaraeon yn unig sydd o ddiddordeb iddi; roedd hi'n chwarae'r cello a'r trwmpet yn yr ysgol uwchradd.
Ymgyrch Euro 2025
Bydd ymgyrch Cymru i gyrraedd Pencampwriaethau Euro 2025 yn Y Swistir yn dechrau ar 5 Ebrill gydag ymweliad Croatia â'r Cae Ras yn Wrecsam. Hefyd yn y grŵp mae Wcráin a Kosovo.
Cymru yw prif ddetholion y grŵp, a bydd Wilkinson yn gobeithio y bydd hi'n gallu arwain y genedl i bencampwriaeth yr Euros am y tro cyntaf erioed.
Hefyd o ddiddordeb: