Record batio arall i Sam Northeast o Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Sam Northeast yn gosod record am y sgôr uchaf i'w chofnodi yn Lords, sef 335Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Sam Northeast yn gosod record am y sgôr uchaf i'w chofnodi yn Lords, sef 335

Mae'r tymor criced wedi dechrau a Morgannwg wedi agor y chwarae yn Lords yn erbyn Middlesex gyda sgôr enfawr o 630 am 3.

Ond yr hyn sy'n fwy arwyddocaol ydi fod Sam Northeast wedi torri record batio arall.

Northeast yw sgoriwr uchaf Morgannwg gan daro 410 yn 2022 ond y tro hwn mae wedi gosod record am y sgôr uchaf i'w chofnodi yn Lords, sef 335.

Hon hefyd yw'r sgôr uchaf gan fatiwr yn y bencampwriaeth yn ystod mis Ebrill.

Wynebodd 412 pelen gan daro 36 pedwar a phedwar chwech.

Gosodwyd nod uchel i Middlesex felly, a pherfformiad Morgannwg yn argoeli'n dda am y tymor newydd.

Morgannwg 620-3 (139 pelawd)

Pynciau cysylltiedig