Dyn ifanc o Sir Gâr wedi ei anafu'n ddifrifol yn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdurdodau yn Sbaen yn ymchwilio ar ôl i ddyn 28 oed o Gymru gael ei anafu'n ddifrifol yn Mallorca dros y penwythnos.
Mae heddlu cenedlaethol Sbaen ar yr ynys yn ymchwilio i'r digwyddiad. Dyw hi ddim yn glir eto union natur y digwyddiad nac anafiadau'r dyn.
Mae'r BBC yn deall mai Ifor Jones, o Lanllwni yn Sir Gaerfyrddin, yw'r dyn sydd wedi ei anafu, a'i fod ar barti stag yn Magaluf dros y penwythnos.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ond dyw ei gyflwr ddim yn glir hyd yma.
Mae'r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod yn "rhoi cymorth i deulu dyn o Brydain a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Sbaen", a'u bod "mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau'n lleol".