Huw Edwards yn gadael y BBC 'ar sail cyngor meddygol'

  • Cyhoeddwyd
Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Fe weithiodd Huw Edwards i'r BBC am dros 40 mlynedd

Mae'r BBC wedi cyhoeddi fod y darlledwr Huw Edwards yn gadael y gorfforaeth "ar sail cyngor meddygol".

Mae'r cyflwynydd newyddion wedi bod oddi ar yr awyr ers haf 2023 yn dilyn adroddiadau ei fod wedi rhoi arian i berson ifanc am luniau anweddus.

Y Cymro oedd y cyflwynydd newyddion mwyaf uchel ei broffil o fewn y BBC, ac yn aml yn arwain darllediadau digwyddiadau o bwys cenedlaethol.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y gorfforaeth: "Mae Huw Edwards wedi ymddiswyddo heddiw a gadael y BBC."

Dywedodd llefarydd: "Yn dilyn 40 mlynedd o wasanaeth, mae Huw wedi egluro bod ei benderfyniad wedi ei wneud ar sail cyngor meddygol gan ei feddygon."

Ychwanegodd bod y BBC "wedi derbyn ei ymddiswyddiad" a'u bod yn "credu y bydd yn caniatáu i bawb symud ymlaen".

Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards oedd y cyflwynydd newyddion mwyaf uchel ei broffil o fewn y BBC

Roedd y darlledwr 62 oed, oedd yn brif gyflwynydd newyddion rhaglen BBC News at Ten, wedi ei wahardd o'i waith ers mis Gorffennaf.

Roedd hynny yn sgil honiadau ym mhapur newydd The Sun yn ymwneud â chyflwynydd "heb ei enwi" a thaliadau i ddyn ifanc am luniau anweddus.

Daeth dyddiau o ddyfalu pwy oedd y cyflwynydd i ben pan gyhoeddodd gwraig Huw Edwards, Vicky Flind, ddatganiad yn enwi ei gŵr.

Dywedodd ar y pryd mai pryder ynghylch ei les meddyliol ac awydd i warchod eu plant oedd y prif reswm dros gyhoeddi'r datganiad.

Ychwanegodd fod ei gŵr â phroblemau iechyd meddwl difrifol a'i fod wedi cael triniaeth at iselder difrifol yn y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Gorffennaf 2023 fe wnaeth lluoedd heddlu yn Llundain a de Cymru benderfynu nad oedd tystiolaeth fod Mr Edwards wedi cyflawni trosedd.

Dim tâl i adael

Mae'r BBC wedi cadarnhau nad yw Mr Edwards wedi cael ei dalu i adael.

Fe wnaeth y gorfforaeth gadarnhau ei fod wedi bod ar dâl llawn ers ei waharddiad, ond nad oes unrhyw arian pellach wedi cael ei dalu iddo.

Dywedodd y BBC ddydd Llun na fyddai'n briodol i wneud unrhyw sylw pellach.

Pynciau cysylltiedig