Ysgolion ar gau yn Y Fenni wedi i bibell ddŵr fyrstio
- Cyhoeddwyd
Mae sawl ysgol yn Y Fenni ar gau a channoedd o adeiladau heb gyflenwadau dŵr wedi i brif bibell ddŵr fyrstio yn y dref ddydd Llun.
Dywed Dŵr Cymru eu bod "wedi gweithio dros nos" i drwsio'r bibell ger Heol Aberhonddu yn dilyn "difrod gan drydydd parti".
Fe effeithiodd y sefyllfa ar dros 4,000 o gwsmeriaid yn y lle cyntaf, ond rhyw 1,600 oedd yn dal heb gyflenwadau erbyn ychydig cyn 09:00 ddydd Mawrth.
Cadarnhaodd y cwmni amser cinio ddydd Mawrth bod y bibell wedi ei thrwsio, ac y dylai cyflenwad pawb fod wedi'i adfer yn ystod y prynhawn.
'Tu hwnt i'n rheolaeth'
Mewn neges ben bore i'r cyhoedd, dywed Ysgol Gymraeg Y Fenni bod dim cyflenwad dŵr i'r safle, sy'n "effeithio ar yr holl wasanaethau hylendid".
Gan ymddiheuro am y diffyg rhybudd, ychwanegodd y neges: "Mae'r mater y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn yn rhoi diweddariad i chi i gyd nes ymlaen heddiw."
Mae dau safle Ysgol 3-19 Brenin Harri'r VIII yn Lôn Llwynu a Hen Heol Henffordd hefyd ar gau, ynghyd ag Ysgol Gynradd Gatholig y Forwyn a Sant Mihangel.