Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tu fewn i gwpwrdd dillad y steilydd Cadi Matthews
"Dylai dillad fod yn estyniad o'ch hun ac yn adlewyrchu'ch personoliaeth. Yr amrywiaeth yma sy'n gwneud fy ngwaith mor ddiddorol."
Mae'r steilydd Cadi Matthews o Gaerdydd fel arfer yn gweithio gyda chwsmeriaid unigol, yn ddynion a menywod, gan argymell dillad a lliwiau sy'n addas iddyn nhw. Ond beth yw steil personol Cadi a pha eitemau yn ei chwpwrdd dillad hi sy'n hanfodol ar gyfer gwisg bob dydd ac achlysuron arbennig?
Mae Cadi'n agor ei chwpwrdd dillad i Cymru Fyw.
Dw i o'r farn bod cael ambell ddilledyn allweddol yn ddefnyddiol iawn mewn cwpwrdd dillad ac yn y pen draw yn gwneud gwisgo'n haws.
Mae cael cwpwl o eitemau clasurol fel cot law trench, siaced blaen, crys t gwyn neu hufen a jîns cyfforddus yn syniad da. Mae modd wedyn ychwanegu pop o liw gydag ategolion neu golur.
Gwisgo i'ch siâp
Mae gwisgo'n addas i'ch siâp yn bwysig. Fel menyw dal dw i'n mwynhau gwisgo ffrogiau hir gyda trainers. Dw i'n teimlo'n gyfforddus ynddyn nhw ac maen nhw'n rhwydd i'w gwisgo. Mae'r ffasiwn gwisgo trainers yma i aros diolch byth!
Mae gwisgo top neu ffrog â siâp V yn fframio'r wyneb ac yn gwneud i'ch gwddf edrych yn osgeiddig. Mae'r edrychiad yn addas i sial siâp corff.
Print a lliw
Yn fy nghwpwrdd hefyd mae gen i nifer o eitemau â phrint. Mae rhain yn amrywio o ran defnydd a steil. Mae gwisgo print a lliw yn codi fy nghalon! Os nad ydych chi wedi arfer gwisgo print, un syniad yw gwisgo print mân, er enghraifft, smotiau neu batrwm bach.
Print llewpart yw fy hoff brint ers sbel bellach a dw i'n tueddu gwisgo fe drwy gydol y flwyddyn. Un o fy hoff siapiau o ran dillad yw siâp wrap sy'n clymu ar draws y corff, siâp sy'n gwneud y gorau o fy nghorff ac sy'n addas i fi.
Gwisg y cyfnod clo
Dros y cyfnod clo dw i, fel llawer o bobl mae'n siŵr, wedi gwisgo'n anffurfiol o amglylch y tŷ. Prynais i ambell i ddilledyn ymarfer corff newydd yn cynnwys un top rhedeg mesh gyda bach o bling o gwmpas y gwddf. Fy ymgais i fod yn stylish tra'n ymarfer corff!
Uchafbwynt yr wythnos oedd mynd i siopa bwyd felly ro'n i'n dueddol i neud mwy o ymdrech y dyddiau yna! Mae dillad ymarfer corff sport lux wedi parhau i fod yn trend amlwg. Un edrychiad ffasiynol yw gwisgo blazer llac dros joggers; mae'r cyfuniad yma o'r ffurfiol ac anffurfiol yn gweithio'n dda.
Y tymor newydd
Eitemau bydd yn amlwg iawn y tymor hwn yw siacedi lledr hir neu PU sef lledr ffug. Meddyliwch am ffilm y Matrix!
Hefyd bydd dillad o bob math gyda phatrwm check yn boblogaidd. Bydd ffrogiau maxi /midi check gyda bŵts fflat trwm chunky a chardigan gynnes gyda llawer o haenau yn edrych yn grêt i'r gaeaf. Fel haf eleni bydd llewys hir, mawr, llawn yn parhau i fod yn trend hefyd.
Ategolion
Mae gen i gwpwl o ddarnau gemwaith aur dw i'n gwisgo bob dydd. Un eitem arbennig iawn sy' gen i yw modrwy briodas Mamgu. Pan mae'n dod at barti neu wisgo lan heb os bydda i'n estyn am fy statement chandelier earrings!
O ddydd i ddydd dw i'n dueddol o newid fy mag llaw i fynd gyda fy ngwisg. Weithiau dw i'n hoffi ychwanegu sgarff sidan fach at fag llaw i'w gwneud yn unigryw a phersonol.
Dw i'n hoffi chwilio mewn siopau elusen am ddillad neu ategolion bach gwahanol. Ces i got law gan gwmni nid anenwog mewn siop vintage am draean o'r pris tase'n newydd. Mae'n werth chweil ac yn sbort mynd i dwrio am fargen!
Dw i'n trio aros ac oedi cyn prynu dilledyn newydd a chynilo cyn gwneud. Mae'n well gen i un eitem dda fydd yn para'.
Dw i'n credu bod prynu'n ddoeth a dewis yn dda yn hollbwysig.
Hefyd o ddiddordeb