Cyngor Sir Penfro i ystyried gwahodd Prifwyl 2026

Arwydd Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2026 fe fydd hi'n 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd cabinet Cyngor Sir Penfro yn ystyried yr wythnos hon a fyddan nhw yn derbyn cais gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol i lwyfannu'r Eisteddfod Genedlaethol ar safle yn Llantwd yn 2026.

Yn ôl dogfen fydd yn cael ei hystyried gan aelodau'r cabinet ddydd Iau, mae'r safle dan sylw, sydd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Cheredigion, yn cwrdd â nifer o feini prawf yr Eisteddfod.

Mae 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

Mae'r adroddiad yn nodi bod yna "risg ariannol" wrth lwyfannu'r Eisteddfod, ond mi fyddai cynnal y brifwyl yn gadael "gwaddol sylweddol" ac yn cael "effaith sylweddol ar yr economi leol".

Mae'r adroddiad yn galw am "bartneriaeth gref" rhwng yr awdurdod lleol, yr Eisteddfod Genedlaethol a chymunedau lleol, ac yn nodi bod angen i'r digwyddiad fod yn "gynhwysol" er mwyn sicrhau bod y brifwyl yn cynnig "rhywbeth i bawb".

Fe fydd aelodau'r cabinet yn cwrdd fore Iau i benderfynu naill a'i i gefnogi'r syniad o gynnal yr Eisteddfod yn Llantwd neu gwrthod y cais a thynnu'n ôl.

Yr opsiwn gyntaf sy'n cael ei ffafrio yn yr adroddiad, a dyna'r argymhelliad fydd yn cael ei drafod gan y cynghorwyr.

Mae'r adroddiad yn nodi nad oes arian wedi ei glustnodi yng nghoffrau'r cyngor ar gyfer cynnal yr Eisteddfod, a fe fydd angen chwilio am noddwyr allanol er mwyn lleihau'r faich ar goffrau'r awdurdod.