Ateb y Galw: Melda Lois

Melda LoisFfynhonnell y llun, Melda Lois
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Melda Lois ryddhau ei EP cyntaf - Symbiosis nôl ym mis Mai.

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Melda Lois, neu Lois i'w ffrindiau, ei magu yn ardal Llanuwchllyn, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ers dros ddegawd ac yn gweithio fel ymchwilydd iechyd cyhoeddus o ddydd i ddydd.

Fe wnaeth Lois ddechrau perfformio yn 2021 (pan roedd ganddi ddwy gân yng nghystadluaeth Cân i Gymru), ac mae hi wedi bod yn gigio'n gyson ers hynny.

Llynedd, cafodd Lois grant prosiect Gorwelion y BBC i recordio ei EP cyntaf 'Symbiosis', ac roedd hi ym mhedwar olaf cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod.

Roedd hi'n chwarae yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon a bydd hi hefyd yn ymddangos yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi cefnogi artistiaid fel Trials of Cato, The Gentle Good, Al Lewis, Malan a Mei Gwynedd.

Dyma ddod i adnabod Melda Lois ychydig yn well gyda cwestiynau bysneslud arferol Cymru Fyw.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Un o’r hogie yn yr ysgol feithrin yn taflu hen ffôn mawr ‘rotary’ ar fy mhen i, wrth i fi drio dringo fyny’r castell ‘bechgyn yn unig’. Fues i’n ffeminist bach styfnig erioed.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llyn Llymbren – y llyn sydd reit uwchben y fferm lle ges i fy magu, o dan gysgod craig yr Aran Benllyn. Mae o’n teimlo’n hollol ynysig oddi wrth gweddill y byd.

Ma’ ‘na adlais anhygoel oddi ar y graig hefyd – mi oedd fy chwiorydd a fi wrth ein boddau’n gweiddi geiriau drwg yno pan oedden ni’n fach!

Ffynhonnell y llun, Melda Lois
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyn Llymbren yn un o hoff lefydd Lois yng Nghymru

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wastad wedi bod eisiau gweld goleuadau’r Gogledd. Mi roedd pawb o’r teulu digwydd bod adre ar y noson gafon ni’r storm solar enfawr nôl ym mis Mai.

Redd cael eu gweld nhw adre, o bob man yn y byd, yn brofiad sbeshal iawn fydd yn aros yn y cof am byth.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol. Direidus. Swil.

Ffynhonnell y llun, Melda Lois
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lois ei magu ar fferm yng Nghwm Cynllwyd

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

O’n isho dathlu rhyddhau fy EP cyntaf i’n gynharach ‘leni, felly 'nes i drefnu lansiad lle dwi’n byw yng Nghaerdydd a lansiad nôl adre yng Nghwm Cynllwyd.

Mi oedd gweld gymaint o wynebau cyfarwydd dros y ddau ddigwyddiad yn hollol, hollol lyfli – fyswn i’m ‘di gallu gofyn am groeso gwell i’r byd i’r EP!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ddath ryw ddyn ata’i ar ddiwedd fy set i’n Caffi Maes B llynedd a dweud ei fod o wedi mwynhau gwrando.

Fuon ni’n sgwrsio am sbel, a 'nes i ddechre holi pwy arall oedd o’n bwriadu gwylio ar y maes y diwrnod hwnnw, ac awgrymu y dyle fo fynd i weld Steve Eaves yn chwarae yn hwyrach ymlaen. Steve Eaves oedd o.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lois byth yn anghofio edrychiad Steve Eaves ar ôl ei sgwrs yn yr Eisteddfod.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

O’n i’n llanasd llwyr wrth wylio Lost Boys and Fairies.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dw i’n uffernol o flêr.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mi wnaeth ffrind awgrymu’r podlediad Tape Notes yn ddiweddar – ma’ nhw’n gwahodd cynhyrchydd ac artist sydd wedi gweithio hefo’u gilydd i drafod y broses recordio.

Difyr ofnadwy! Hwnnw sydd ar lŵp genai ar y funud, ond dwi’n joio bach o true crime.

Ffynhonnell y llun, Melda Lois
Disgrifiad o’r llun,

Mi fase Lois wrth ei bodd yn gallu rhoi'r 'byd yn ei le' gyda'i Mam-gu

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Allai drio meddwl am ateb clyfar a rhyw enw mawr, ond fyswn i dipyn balchach yn rhoi’r byd yn ei le hefo Mamgu.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Yn ôl y sôn, Buwch Goch Gota oedd fy ngair cynta’ i. Ma’ genai fy amheuon hefyd.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun ohona’i hefo fy nai bach ‘chydig oriau ar ôl iddo fo gael ei eni – dwi ‘di dotio hefo bod yn Anti Lois.

Ffynhonnell y llun, Melda Lois
Disgrifiad o’r llun,

Dyma Lois ychydig oriau ar ôl genedigaeth ei nai bach.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Pacio’r llong ofod.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Well sticio hefo jysd bod yn fi dwi’n meddwl – mai di cymryd hen ddigon o amser i fi ddechrau teimlo’n hapus yn fy nghroen, felly gwell peidio neidio allan ohona fo!

Pynciau Cysylltiedig