Ateb y Galw: Mali Hâf

Bydd Mali yn perfformio yng ngŵyl Tafwyl dros yr haf.
- Cyhoeddwyd
Tro Mali Hâf yw hi'r wythnos hon i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Cerddor a chantores o Gaerdydd yw Mali, sy'n bennaf yn creu cerddoriaeth pop electronig.
Ym mis Tachwedd mi ryddhaodd hi ei EP diweddaraf, 'Jig-So'.
Mae'r cyfnod diweddaraf wedi bod yn un prysur i Mali sydd wrthi'n ysgrifennu deunydd newydd gan gynnwys newydd o'r enw Esgusodion.
Bydd Mali hefyd yn ymddangos ar y prif lwyfan ar ddydd Sul gŵyl Tafwyl.
Beth ydi dy atgof cynta?
Fy mhen-blwydd yn bedair oed.
Rhedes i mas i’r ardd yn droednoeth i gael munud i fy hun achos roedd y syniad o fod yn 4 mor anhygoel.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Tŷ Mamgu a Dadcu yn Llanfarian ger Aberystwyth.
Wy’n caru eistedd lle oedd Dadcu yn arfer eistedd ac edrych allan ar wyrddni dyffryn yr Ystwyth.
Pan o’n i yn blentyn o Gaerdydd roedd e’n teimlo mor wahanol - yr adar, y coed, y môr a hen fferm Dad, Tynrhelyg, jyst lawr y rhewl.

Llun ar draeth Aberystwyth gyda Mamgu a Dadcu , a fy chwaer fach Sioned.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Melys, chwareus a charedig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan o’n i'n 11 mlwydd oed roeddwn yn actio gyda phlant eraill mewn cynhyrchiad yr Urdd o ‘r sioe gerdd Annie.
Fy rhan i oedd yr Arlywydd Franklin D Roosevelt a oedd mewn cadair olwyn.
Collais i fy nghiw, felly roedd yn rhaid rholio fy nghadair olwyn fy hun ymlaen i’r llwyfan ac wedyn eistedd lawr - ar y pryd ro’n i ‘n hapus i gael chwerthiniad o’r gynulleidfa.

Mali yn perfformio yng ngŵyl Tafwyl y llynedd
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod i sôn amdano.
Un bach oedd y cyfweliad mwya' byr erioed - ar y teledu ar ôl gŵyl Triban.
Cyflwynydd: "Mali sut wnes ti fwynhau y perfformiad yna?"
Fi: "Diolch!" (a cerdded ffwrdd, camddealltwriaeth wrth gwrs!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yr ateb braidd yn boring yw pan o’n i yn gwylio'r rhaglen realiti I Kissed a Girl a gwrando ar ddwy ferch yn dweud wrth ei gilydd cymaint o’n nhw’n caru ei gilydd.
Yr ateb braidd yn od yw, y tro cyn hynny, dechreuais i grio wrth feddwl am y ffaith bod ni methu hedfan, pan o’n i yn gwisgo ffansi dress pili pala.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohonof i a fy chwaer Sioned yn wyth a chwe mlwydd oed mewn gwisgoedd Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae e mor ddoniol ac yn symbol o’n perthynas agos a’r hiwmor 'da ni yn rhannu.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fel rhywun gyda ADHD rwy’n dueddol o ddatblygu stims.
Yr un mwyaf diweddar yw chwiban fel tegell neu aderyn - hyd yn oed pan rwy’n gwylio teledu gyda fy nghariad, fy ffrindiau a fy nheulu, sori pawb!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfr - rhwng His Dark Materials gan Phillip Pullman - o achos y syniad bod pawb gydag anifail fel ffrind sy’n cynrychioli eu heneidiau neu The Buddha, Geoff and Me gan Edward Canfor-Dumas. Mae syniadau Bwdaidd yn dod yn fyw trwy stori hollol gyffredin.
Ffilm - Matilda, wedi ei weld cymaint o weithie rwy’n cofio llawer o’r deialog. Rwy’n caru’r neges bod y plentyn yn fwy call na’r oedolion a’r ffantasi o gael pwer hudol cyfrinachol.

Mae Mali yn hoff o gasglu hwyaid rwber
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Thich Nhat Hanh, y meistr Zen, i brofi ei ddoethineb. Byse ni yn yfed te gyda llaw.
Frida Khalo y peintiwr Mecsicanaidd - cymaint o gwestiynau i ofyn iddi, a jyst i brofi ei nerth creadigol a phersonol mewnol.
A Bob Marley - mae’n amlwg pam.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy’n casglu hwyaid rwber.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Rhywbeth sy’n cynnwys dawnsio, bwyd blasus, ffrindiau a theulu. Ac tu fas rhywle gyda golygfeydd hardd gyda fy nghath yn canu grwndi…ooo a llwyfan ble gallaf wneud fy sioe byw ola!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2022