Ateb y Galw: Lauren Moore
- Cyhoeddwyd
Lauren Moore ydy'r gyflwynwraig sy'n darparu tiwns egnïol i groesawu'r penwythnos ar nosweithiau Gwener ar Radio Cymru.
Fe gymrodd hi saib o'i gwaith radio i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw pan o’n i tua tair mlwydd oed. Roedd Mam a Dad yn cael noson gemau yn y tŷ gyda ffrindiau’r teulu ac o’n i a fy mrawd i fod yn y gwely, ond yn lle, ro’n ni yn neidio lawr y grisiau i weld faint o grisiau o’n ni’n gallu neidio lawr.
Fel pob chwaer bach i frawd hŷn, o’n i’n meddwl fy mod i’n gallu neud popeth odd e’n neud felly neidiais o’r chweched step ar y grisiau a torri fy mhigwrn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy hoff le yng Nghymru yw Dinbych-y-pysgod. Mae gymaint o atgofion melys gyda fi o treulio amser yn Ninbych-y-pysgod gyda’r teulu fel plentyn, a pob tro dwi’n treulio amser yna dwi’n teimlo mor peaceful.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson orau i fi gael erioed? Unai’r noson nes i ddyweddïo yng Nghaeredin neu’r noson cwpl o wythnosau nôl pan ffeindion ni allan ein bod ni’n mynd i fod yn aunties blwyddyn yma gan fod fy mrawd a fy chwaer-yng-ngyfraith yn disgwyl.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Clumsy, uchelgeisiol, angerddol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu?
Y diwrnod pan naethon ni brynu ein ci bach, Barney. Un o fy mreuddwydion fel plentyn oedd i gael ci ac o’n i’n teimlo fel o’n i wedi ennill bywyd y diwrnod yna.
Beth oedd y digwyddiad wnaeth godi mwya' o gywilydd arnat ti?
Pob tro dw’i yn y maes awyr yn checkio mewn, pan ma’ nhw’n dweud "mwynha dy wyliau” a dwi’n ateb “ti hefyd!”. Embarrassing!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Sai’n gallu cofio! Dw’i ddim yn crïo yn aml o gwbl.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Procrastination! Pan mae lot gyda fi neud dwi wastad yn rhoi pethau off a wedyn yn teimlo’n rili rhwystredig pan mae’r dydd yn dod i ben a dwi heb neud un peth.
Beth yw dy hoff lyfr? Pam?
Fy hoff lyfr yw This is Going To Hurt gan Adam Kay. Darllenais i hwn yn ystod y cyfnod clo cyntaf ac odd e’n codi calon, yn emosiynol a wedi neud i fi chwerthin. Mae’n llyfr rili nostalgic i fi nawr.
Byw neu farw, gyda pwy fyddet ti’n cael diod?
Fy Nain. Bu farw pan o’n i’n Blwyddyn 5 a bysen i wrth fy modd cael eistedd a rhannu popeth sydd wedi digwydd ers iddi farw ac i gael y cyfle i'w nabod fel oedolyn.
Rhanna rhywbeth does dim llawer o bobl yn gwybod amdana ti.
O’n i’n gymnast cystadleuol yn tyfu fyny a dwi dal yn gallu neud somersault.
Beth fyddet ti’n neud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?
Mynd i dŷ Mam a Dad i dreulio’r diwrnod olaf ar y blaned gyda’r teulu.
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Y llun yma. Aethon ni am bryd o fwyd ar ôl fy seremoni graddio yn Llundain ac yn ystod y seremoni ges i wobr Outstanding Student of the Year a mae wastad yn atgoffa fi fy mod i’n gallu neud unrhywbeth dwi moyn os ydw i’n gweithio’n ddigon caled.
Petaet ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai?
Trixie Mattel – fy hoff drag queen o RuPaul’s Drag Race. Dwi jest yn meddwl ei bod hi mor cŵl a bysen i eisiau gweld beth mae fel i wisgo drag!
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill