Pryder ynglŷn â gosod cyllideb Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir PenfroFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
  • Cyhoeddwyd

Mae Archwilio Cymru wedi cadarnhau ei bod nhw wedi derbyn gohebiaeth ynglŷn â’r broses o osod y gyllideb ar gyfer Cyngor Sir Penfro eleni.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod aelod o’r grŵp Annibynnol ar y cyngor wedi codi pryderon ynglŷn â’r ffordd y cafodd y gyllideb ei pharatoi, a newidiadau munud olaf i lefel treth y cyngor.

Nid yw Archwilio Cymru wedi lansio ymchwiliad eto.

Roedd disgwyl i gynghorwyr bleidleisio ar gynnydd posib o 16.31%, ond fe gynigiwyd newid munud olaf gan y Dirprwy Arweinydd, Paul Miller ar ddiwrnod y cyfarfod, 7 Mawrth.

Yn y diwedd, fe gefnogwyd cynnydd o 12.5%, gyda £1.5m yn dod o gronfeydd wrth gefn a £1m yn dod o arbedion pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro y byddai ”unrhyw bryderon yn cael eu hateb yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Llywodraethant ac Archwilio".

Pynciau Cysylltiedig