Mwy o gwynion am gŵn peryglus wedi gwaharddiad Bully XL?
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r cwynion am gŵn peryglus ddyblu yn sgil cyflwyno'r gwaharddiad ar gŵn Bully XL, medd plismon blaenllaw.
Dywed Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Mark Hobrough, ei fod yn ymwybodol o "bryderon" y gallai bridwyr anghyfrifol gadw cŵn eraill.
Bydd y gwaharddiad ar gŵn Bully XL yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ar 31 Rhagfyr.
Dywed Llywodraeth y DU y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gwarchod y cyhoedd.
Fe benderfynwyd gwahardd cŵn Bully XL wedi nifer o ymosodiadau - nifer yn angheuol.
Y rheolau newydd
Mae'r gwaharddiad yn nodi y bydd yn rhaid i gŵn Bully XL wisgo ffrwyn a chael eu cadw ar dennyn yn gyhoeddus.
Bydd hi'n anghyfreithlon i'w hailgartrefu, eu gwerthu neu eu trosglwyddo i berchnogaeth person arall.
Mae'n rhaid i berchnogion sy’n dymuno cadw eu hanifeiliaid ymuno â chynllun eithrio cyn 1 Chwefror neu fe allant ddewis roi’r ci i orffwys a gwneud cais am iawndal.
Dywed Mark Hobrough, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gŵn peryglus, ei fod yn disgwyl i nifer yr adroddiadau am gŵn peryglus "ddyblu" ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym yn llawn.
“Fe fyddwn ni'n gallu delio gyda’r galw yna," meddai gan ychwanegu bod yr heddlu hefyd yn ystyried beth fydd y ci peryglus nesaf.
Mwy o droseddau cŵn peryglus
Mae gwaith ymchwil gan BBC Wales Investigates yn awgrymu fod troseddau cysylltiedig â chŵn peryglus ar gynnydd.
Mae data a gafwyd gan 27 o 43 llu heddlu Cymru a Lloegr yn dangos bod 15,350 trosedd yn 2022 - 37% yn uwch na'r 11,183 trosedd a gofnodwyd yn 2019.
Dywed Llywodraeth y DU bod cyflwyno'r gwaharddiad ar gŵn XL Bully yn dangos eu bod yn gweithredu’n gyflym ac yn bendant er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
Dywedodd llefarydd hefyd eu bod yn gweithio'n agos gyda phlismyn, arbenigwyr cŵn a milfeddygol a grwpiau lles anifeiliaid wrth weithredu'r gwaharddiad.
Ond mae'r Rhwydwaith Rheoli Cŵn, sy’n cynnwys Ymddiriedolaeth Cŵn, Asiantaeth Filfeddygol Prydain ac elusen Hope Rescue, wedi dweud wrth y BBC yn y gorffennol, fod gwahardd brid penodol yn ddi-werth.
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023
Yn ôl Vanessa Waddon, o elusen Hope Rescue yn Llanharan, byddai sicrhau bod unrhyw fridiwr ci wedi’i drwyddedu a bod modd ei olrhain, yn llawer mwy effeithiol.
Dyw hi ddim yn credu y bydd y dystysgrif eithrio sy'n rhaid i berchnogion cŵn Bully XL ei llenwi cyn 1 Chwefror yn mynd i’r "afael â pherchnogaeth wael".
“Yr unig beth sy’n mynd i ddigwydd yw y bydd modd i rai sydd eisiau perchen ci peryglus neu fygythiol, barhau i allu wneud hynny – mae nhw jyst yn mynd i ddewis brid gwahanol.
"Dan ni wir yn teimlo na fydd y gwaharddiad yn cael yr effaith mae’r llywodraeth yn ei gredu," ychwanegodd.
"Byddai rhyw fath o brawf perchnogaeth cŵn cyfrifol sy’n dangos eich bod chi’n berchennog cyfrifol, eich bod chi’n cadw eich ci yn ddiogel, o dan reolaeth - dwi’n meddwl byddai’r math yna o fesurau yn cael effaith ar y nifer o frathiadau cŵn ry'n ni’n eu gweld.
"Ond mae hynny i gyd yn costio. Dwi’n meddwl mai dyma’r ffordd sut y gallai trwyddedu fod yn ddefnyddiol ond dim ond os allwn ni gadw’r incwm ar gyfer gweithredu’r gyfraith."
'Cael cŵn eraill peryglus yn bryder'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Hobrough ei fod yn poeni y bydd bridwyr yn symud ymlaen at gŵn mwy a rhai mwy pwerus.
“Dwi’n meddwl fod angen i bobl fod yn gyfrifol a chael y math cywir o gi sy'n addas ar gyfer eu cartref a'r gymuned."
Ychwanegodd ei bod hi'n "hynod o bwysig fod aelodau o’r cyhoedd sy’n gweld cŵn y mae nhw’n bryderus amdanyn nhw o fewn eu cymuned, yn sôn am hynny wrth yr heddlu fel bod modd asesu a yw’r cŵn yn ddiogel ai peidio".