Ymosodiad 'brawychus' cŵn ar ddefaid 'yn dal i gael effaith'

  • Cyhoeddwyd
Sheep
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 22 o ddefaid Mr Jones eu lladd ar y diwrnod, a bu farw 2 arall yn ddiweddarach

Mae ffermwr o'r gogledd a gollodd 24 o ddefaid beichiog mewn ymosodiad ffyrnig gan gŵn yn dweud ei fod yn dal i geisio dod i delerau gyda'r digwyddiad a'r effaith ariannol.

Cafodd 46 o ddefaid eraill eu hanafu yn y digwyddiad yn Rhosllannerchrugog, Sir Wrecsam, a dywedodd Paul Jones na fydd yn ei anghofio.

Yn ogystal â'r gost o £14,000, mae'n dweud bod yr ymosodiad wedi "cael effaith" ar bawb oedd yna y diwrnod hwnnw.

Mae un undeb yn galw am roi rhagor o bwerau i'r heddlu ymchwilio, a chosbau llymach i berchnogion.

'Brawychus'

Dywedodd Mr Jones iddo glywed "helynt mawr" ar y diwrnod, a chanfod dwy ddafad "wedi eu rhwygo'n ddarnau" ar ei iard.

Pan gyrhaeddodd ei sied, fe welodd ddau gi tarw - American XL Bully - yng nghanol y defaid yn eu "chwalu nhw".

Disgrifiad o’r llun,

"Unig gysur" Paul Jones yw na wnaeth y cŵn ganfod ei fab na'i fam oedrannus, meddai

Er bod ymosodiadau wedi digwydd o'r blaen, dywedodd nad oedd "erioed wedi gweld y math yma o niwed".

"Roedd y defaid wedi cau yn y sied, doedden nhw methu dianc.

"Roedd o'n frawychus."

Dywedodd bod un ci wedi ceisio ymosod arno fo hefyd, cyn iddo allu saethu'r ddau anifail.

Cymerodd 10 awr i filfeddyg roi pwythau i'r holl ddefaid gafodd ei hanafu, meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy cwn XL Bully ddim am y rhestr o fridiau sydd wedi eu gwahardd yn y DU

Ei "unig gysur", meddai, oedd nad oedd y cŵn wedi dod ar draws ei fab neu ei fam oedrannus, nac wedi cyrraedd yr ysgol gynradd sydd 200 metr i ffwrdd.

"Roedd y defaid 'na yn 75-80kg. Yr ysgol yn fan 'na, mae'r plant yn 10-15kg.

"Roedden nhw [y cŵn] yn taflu'r defaid 'na fel oedden nhw'n bapur."

Trwyddedu perchnogion eto?

Yn ogystal â'r effaith emosiynol, mae'r ymosodiad wedi costio £14,000 i Mr Jones.

Dim ond hanner hynny roedd ei gwmni yswiriant yn fodlon ad-dalu am yr anifeiliaid marw, ac mae ei bremiwm yswiriant wedi dyblu.

"Fel dioddefwyr 'dan ni wedi ein taro'n galed iawn. Dwi ddim yn gwybod faint fydd yn cymryd i ni adfer hynny.

"Falle bod angen trwyddedu perchnogion eto, neu sicrhau yswiriant ac o leiaf byddai modd talu'r golled yn ôl."

Cafodd perchennog y cŵn, David Hughes, 26 o ardal Rhosllannerchrugog, ei wahardd yr wythnos ddiwethaf rhag cadw cŵn am bum mlynedd a dirwy o £900.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Jones bod cyrff y defaid ym mhobman yn y sied wedi'r ymosodiad

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid yn gadael ffermwyr "ar y dibyn yn ariannol ac yn emosiynol".

Er gwaethaf "ymgyrchoedd niferus i addysgu perchnogion", mae ymosodiadau'n parhau, meddai'r undeb, gan alw am roi rhagor o bwerau i'r heddlu allu ymchwilio a rhoi cosbau llymach i berchnogion.

Dywedodd swyddog heddlu cefn gwlad bod ymosodiadau o'r fath yn "llawer rhy gyffredin".

Ychwanegodd PC Chris James o Heddlu Gogledd Cymru: "Perchennog ci yw'r unig un sy'n gallu atal ymosodiad, ac fe allwch orfod talu'r pris mwyaf os na allwch chi reoli eich anifail."

Y 'norm' i ffermwyr

Mae angen rhagor o addysg i berchnogion, meddai Helen Roberts o gangen Cymru'r Gymdeithas Defaid Cenedlaethol.

Dywedodd ei bod wedi cael braw o glywed am achos Mr Jones.

"Mae'n gwbl ddinistriol i ffermwr ac mae'n rhywbeth na ddylai ddigwydd y dyddiau hyn.

"Yn anffodus mae ffermwyr yn gweld hyn fel y norm. Ni ddylech chi orfod deffro yn y bore a gweld defaid wedi marw a derbyn mai dyna'r norm."

Ychwanegodd bod arolwg diweddar gan y gymdeithas yn awgrymu bod 95% o'r aelodau wnaeth ymateb yn profi rhwng 1 a 10 ymosodiad gan gi bob blwyddyn.