Chweched aur i Aled Sion Davies ym mhencampwriaethau'r byd

Aled Sion Davies yn dathlu yn JapanFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Aled Sion Davies yn dathlu ei fedal aur ddiweddaraf ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Aled Sion Davies wedi ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd, a hynny am y chweched tro yn olynol.

Daeth ei lwyddiant yn y gystadleuaeth taflu maen F63, fel aelod o dîm Prydain Fawr, ar ddiwrnod olaf y pencampwriaethau yn Japan.

Dyma'r ddegfed tro iddo ddod i'r brig mewn pencampwriaeth byd.

Roedd i dafliad o 15.60m bron i fetr yn bellach nag ymgais gorau'r athletwr o Iran, Faisal Sorour, a ddaeth yn ail.

"Mae'n wallgo' i feddwl 'mod i wedi ennill 10 teitl byd a chwe theitl byd taflu maen yn olynol," dywedodd Davies, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 33 oed.

"Does neb wedi gwneud hynny erioed o'r blaen yn y maes.

"Y prif beth eleni yw'r Gemau Paralympaidd, felly mae hyn yn fy mharatoi amdano'n eitha' da."

Pynciau cysylltiedig