Dyn, 21, yn cyfaddef bygwth lladd myfyrwyr a staff coleg

ColegFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed wedi cyfaddef iddo bostio fideo ar-lein yn bygwth myfyrwyr a staff coleg yn gynharach eleni.

Fe wnaeth Oliver Beynon o Fochriw, Caerffili, bledio'n euog i gyhuddiad o anfon negeseuon yn bygwth marwolaeth neu niwed difrifol yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd gwrandawiad blaenorol bod y fideo, a gafodd ei wylio 2,500 o weithiau ar YouTube, yn cynnwys "manylion graffig" o fygythiadau i ladd pobl yn Y Coleg, Merthyr Tudful.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig