Cyhuddo dyn 21 oed o bostio fideo yn bygwth myfyrwyr coleg

Coleg Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o bostio fideo ar-lein yn bygwth myfyrwyr coleg.

Fe wnaeth Oliver Beynon o Fochriw, Caerffili, gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn llys ynadon Casnewydd ddydd Mawrth.

Mae wedi cael ei gyhuddo o anfon negeseuon yn bygwth marwolaeth neu niwed difrifol.

Dywedodd erlynwyr bod y fideo, sydd wedi cael ei wylio 2,500 o weithiau ar YouTube, yn cynnwys "manylion graffig" o fygythiadau i ladd pobl sy'n mynychu Y Coleg, Merthyr Tudful.

Fe gytunodd ynadon i ryddhau Mr Beynon ar fechnïaeth gydag amodau llym ynglŷn â lle y bydd yn byw, a chyrffyw dros nos.

Dydi o ddim yn cael mynd i Y Coleg, Merthyr Tudful, nac i fewn i dref Merthyr Tudful ei hun.

Mae wedi ei wahardd hefyd rhag defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 29 Medi.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan y coleg, fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod wedi agor ar gyfer diwrnod cyntaf y tymor "yn dilyn adolygiad ac asesiad trylwyr o ddiogelwch staff, dysgwyr a defnyddwyr yr adeilad".

Pynciau cysylltiedig