Corwen: Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghorwen, Sir Ddinbych.
Cafodd swyddogion eu galw i dŷ yn ardal Clawdd Poncen am 02:35 fore Gwener yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad domestig.
Mae dyn lleol 27 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oedd "bygythiad i'r gymuned yn ehangach" wedi'r digwyddiad.
Ond fe fydd "presenoldeb heddlu uwch" yn yr ardal dros y dyddiau nesaf, ac maen nhw'n parhau i apelio am wybodaeth.
"Rydw i'n gwerthfawrogi y bydd pryderon yn yr ardal leol, a hoffwn sicrhau trigolion nad ydyn ni'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Chris Bell.