275 o ddefaid yn boddi a cholli gwerth £100,000 yn 'dorcalonnus'

Kiyan Freedom mewn dŵrFfynhonnell y llun, Tetiana Freedom
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Kiyan Freedom a pherchennog y tir geisio achub y defaid, ond roedd lefel y dŵr yn codi'n rhy uchel

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl wedi dweud eu bod wedi cael eu "llorio", ar ôl i lifogydd achosi iddyn nhw golli 275 o ddefaid.

Dechreuodd Kiyan Freedom a'i wraig, Tetiana, gadw'r defaid ym mis Ebrill, er mwyn ceisio gwella eu hiechyd meddwl - ar ôl colli sawl babi a delio gyda chanser Mr Freedom.

Mae'r cwpl, y ddau'n 36, wedi colli gwerth mwy na £100,000 o ddefaid ac offer ar eu fferm ym Mhont-iets yn Sir Gâr, ar ôl i don "bwerus" o ddŵr olchi dros eu tir ar 4 Medi - pan dorrodd glannau'r Afon Gwendraeth gerllaw yn dilyn glaw trwm.

Dywedodd Mr Freedom ei fod yn "gwbl dorcalonnus", gan ychwanegu bod y cyfan wedi cael effaith ar ei "fywyd, yn emosiynol ac yn ariannol".

Kiyan a Tetiana FreedomFfynhonnell y llun, Tetiana Freedom
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Kiyan Freedom y gorau i'w yrfa fel bargyfreithiwr pan gafodd ddiagnosis o ganser

Roedd Mr Freedom ar ei ffordd i fwydo'r praidd am tua 10:30, pan glywodd sŵn "ofnadwy".

"Rhedais at y defaid i'w gwthio i dir uwch, ond doeddwn i methu," meddai.

"Roedd y dŵr yn rhy ddwfn a chyrhaeddodd perchennog y tir gyda thractor i helpu i'w "achub", meddai Mr Freedom.

Dechreuon nhw geisio achub y defaid, ond am fod y dŵr yn codi roedd "yn gyrru'r tractor o dan y dŵr".

Ni chafodd yr un o'r ddau eu hanafu, ond cafodd y tractor a cherbyd Mr Freedom eu difetha gan y dŵr.

Dywedodd Mr Freedom ei fod wedi derbyn nifer o alwadau gan gymdogion, wedi iddynt ddod o hyd i gyrff ei ddefaid.

Kiyan Freedom yn dreifio Mitsubishi ShogunFfynhonnell y llun, Tetiana Freedom
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerbyd Mr Freedom ei ddifetha gan y dŵr

Dywedodd wrth BBC Cymru fod ei ddefaid yn rhan o'i deulu.

Er i 328 o ddefaid gael eu hachub, mae tair wedi marw a "dyw'r lleill dal ddim yn iach".

Mae'n anghyfreithlon claddu stoc sydd wedi marw, felly mae Mr Freedom wedi trefnu i 275 o'r cyrff i gael eu casglu.

Cafodd amcan bris o tua £20 y pen, sef £5,500 i gyd.

Cafodd Mr Freedom ei fagu ar fferm yn Iran a phan gafodd ddiagnosis o ganser, rhoddodd y gorau i'w yrfa fel bargyfreithiwr rhyngwladol.

Dechreuodd y cwpl ffermio yng Nghymru ar ôl dwy flynedd wedi i Mr Freedom allu symud yn well, er mwyn gwella o "sawl straen".

Dywedodd ei fod yn "dioddef o'r tiwmor ar yr ymennydd a chanser yr asgwrn cefn".

'Nid yw llifogydd yn yr ardal hon yn anarferol'

Mae Mr Freedom yn honni na chafon nhw help gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac na wnaethon nhw dderbyn rhybudd am y llifogydd.

Dywedodd CNC fod y glaw trwm wedi "achosi i'r Afon Gwendraeth Fawr godi'n gyflym, gan orlifo tir amaethyddol isel ger Pont-iets".

"Nid yw llifogydd yn yr ardal hon yn anarferol ac fe wnaethon ni gyhoeddi rhybudd llifogydd."

Ychwanegodd CNC fod cofnodion yn dangos nad oedd y tirfeddiannwr a'r tenantiaid wedi "cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddio llifogydd am ddim, felly ni fyddent wedi derbyn y rhybudd.

"Rydym wedi darparu canllawiau ers hynny ar sut i gofrestru."

Dywedodd CNC nad oedden nhw wedi mynychu'r safle gan nad oedd unrhyw gartrefi wedi cael eu heffeithio - yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru - a bod cynnal a chadw rhediad llif y dŵr yn gyfrifoldeb i "berchennog y tir neu'r tenant".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.